Mae Adolygwyr Cymheiriaid fel arfer yn ffurfio rhan o dîm amlddisgyblaethol ac mae eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar arferion a phrofiad cyfredol. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gwblhau naill ai'n bersonol neu o bell o bryd i'w gilydd.

Manylion y swydd wag
| Sefydliad | Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru |
| Rôl | Adolygydd Cymheiriaid Nyrsys Practis |
| Cyflog | £275 y dydd, a threuliau teithio a chynhaliaeth |
| Hyd | Tair blynedd gyda'r posibilrwydd o estyniad |
Diben y swydd
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn rheoleiddio darparwyr Gofal Iechyd Annibynnol ac yn arolygu Gwasanaethau'r GIG yng Nghymru yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd y mae angen eu gwella.
Fel Adolygydd Cymheiriaid Nyrsys Practis, byddwch yn cydweithio ag AGIC i gynnal arolygiadau mewn practisau meddygon teulu a gwasanaethau y tu allan i oriau meddygon teulu ledled Cymru.
Bydd AGIC yn defnyddio eich gwybodaeth a'ch sgiliau i sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar ymarfer a phrofiad cyfredol. Bydd eich sgiliau a'ch cymorth yn ein helpu i nodi arferion da ac i atgyfnerthu a rhannu unrhyw feysydd o bryder fel y gall meddygon teulu a byrddau iechyd roi tawelwch meddwl i'r cyhoedd a gwella gwasanaethau i gleifion.
Tasgau allweddol
- Gweithio fel rhan o dîm Arolygu, gyda chymorth a chyfarwyddyd gan staff AGIC.
- Teithio ledled Cymru i arolygu'r amgylchedd ffisegol, polisïau/gweithdrefnau, cyfarpar, ardystiadau, cofnodion cleifion a chofnodion eraill mewn gwasanaethau gofal iechyd.
- Cyfweld â staff a chleifion.
- Rheoli amser yn effeithiol, gan gynnwys paratoi ar gyfer yr ymweliad arolygu drwy ddarllen adroddiadau gwybodaeth cyn yr arolygiad ac adroddiadau arolygu blaenorol.
- Ymateb i faterion sy'n peri pryder, fel y bo'n briodol, a thrwy drafod ag Arolygydd Gofal Iechyd AGIC.
- Gwneud arsylwadau ac argymhellion yn seiliedig ar eich barn glinigol a phroffesiynol eich hun, gan ystyried rhesymeg glinigol, safbwyntiau a buddiannau cleifion, ac unrhyw Reoliadau a Safonau perthnasol sydd ar waith.
- Gwneud cofnodion cywir a chynhwysfawr o'ch canfyddiadau yn ystod yr ymweliad, gan ddefnyddio'r adnoddau arolygu, a chyfrannu at y cyfarfod adborth ar ddiwedd yr Arolygiad gan ddefnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd.
- Adolygu a gwneud sylwadau yn ôl yr angen a chyn cyhoeddi adroddiadau arolygu er mwyn sicrhau eu bod yn gywir.
- Cynnal ymweliadau arolygu dilynol byrrach â phwyslais penodol (yn ôl yr angen).
- Cymryd rhan yn y broses o greu a diwygio dogfennaeth methodoleg arolygu (yn ôl y gofyn)
- Dangos parch tuag at amrywiaeth a dinasyddiaeth y staff, y cleifion ac eraill, a dealltwriaeth ohonynt.
- Cwblhau hyfforddiant sefydlu a hyfforddiant arall y cred AGIC eu bod yn angenrheidiol.
- Gweithredu fel llysgennad ar ran AGIC drwy hyrwyddo gwaith yr Arolygiaeth a rhannu arferion gorau.
Meini Prawf sy'n Benodol i'r Swydd
Meini prawf hanfodol
- Gweithio fel rhan o dîm Arolygu, gyda chymorth a chyfarwyddyd gan staff AGIC.
- Teithio ledled Cymru i arolygu'r amgylchedd ffisegol, polisïau/gweithdrefnau, cyfarpar, ardystiadau, cofnodion cleifion a chofnodion eraill mewn gwasanaethau gofal iechyd
- Cyfweld â staff a chleifion.
- Rheoli amser yn effeithiol, gan gynnwys paratoi ar gyfer yr ymweliad arolygu drwy ddarllen adroddiadau gwybodaeth cyn yr arolygiad ac adroddiadau arolygu blaenorol.
- Ymateb i faterion sy'n peri pryder, fel y bo'n briodol, a thrwy drafod ag Arolygydd Gofal Iechyd AGIC.
- Gwneud arsylwadau ac argymhellion yn seiliedig ar eich barn glinigol a phroffesiynol eich hun, gan ystyried rhesymeg glinigol, safbwyntiau a buddiannau cleifion, ac unrhyw Reoliadau a Safonau perthnasol sydd ar waith.
- Gwneud cofnodion cywir a chynhwysfawr o'ch canfyddiadau yn ystod yr ymweliad, gan ddefnyddio'r adnoddau arolygu, a chyfrannu at y cyfarfod adborth ar ddiwedd yr Arolygiad gan ddefnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd.
- Adolygu a gwneud sylwadau yn ôl yr angen a chyn cyhoeddi adroddiadau arolygu er mwyn sicrhau eu bod yn gywir.
- Cynnal ymweliadau arolygu dilynol byrrach â phwyslais penodol (yn ôl yr angen).
- Cymryd rhan yn y broses o greu a diwygio dogfennaeth methodoleg arolygu (yn ôl y gofyn)
- Dangos parch tuag at amrywiaeth a dinasyddiaeth y staff, y cleifion ac eraill, a dealltwriaeth ohonynt.
- Cwblhau hyfforddiant sefydlu a hyfforddiant arall y cred AGIC eu bod yn angenrheidiol.
- Gweithredu fel llysgennad ar ran AGIC drwy hyrwyddo gwaith yr Arolygiaeth a rhannu arferion gorau.
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o weithio gyda phobl agored i niwed.
- Profiad blaenorol o brosesau arolygu, archwilio a/neu sicrhau ansawdd.
- Gwybodaeth am amcanion a blaenoriaethau AGIC a dealltwriaeth ohonynt.
Cyfleoedd datblygu
Bydd Adolygwyr Cymheiriaid yn meithrin profiad o arolygu ac adolygu a byddant yn gwella eu sgiliau dadansoddi, drafftio, gweithio mewn tîm a chyfathrebu.
Mae gweithio gydag AGIC yn rhoi cyfle i Adolygwyr Cymheiriaid drosglwyddo arferion da i'w meysydd gwaith eu hunain.
Y Gymraeg
Mae AGIC yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei gweithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Bydd Adolygwyr Cymheiriaid yn destun gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Gwybodaeth Ychwanegol
Patrwm Gwaith
Rhoddir cytundeb fframwaith i Adolygwyr Cymheiriaid er mwyn darparu gwasanaethau'n hyblyg, gan gynnwys gweithio y tu allan i oriau. O dan y trefniant hwn, nid oes unrhyw rwymedigaeth ar AGIC i gynnig aseiniadau ac nid oes unrhyw rwymedigaeth ar Adolygwyr Cymheiriaid i dderbyn aseiniadau. Bydd AGIC yn cynnig aseiniadau pan fydd angen gwasanaethau.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cymorth Arolygiadau AGIC yn AGIC.arolygu@llyw.cymru neu ffoniwch 0300 062 8163.
Sut i wneud cais
Cwblhewch y ffurflen gais sydd a'i chyflwyno drwy e-bost i AGIC.arolygu@llyw.cymru.
Os oes angen y ffurflen gais arnoch mewn fformat neu iaith wahanol, cysylltwch â ni: AGIC.arolygu@llyw.cymru 0300 062 8163
Dogfennau
-
Adolygydd Cymheiriaid Nyrsys Practis - Ffurflen gais , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 92 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:92 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
Adolygydd Cymheiriaid Nyrsys Practis - Manyleb Swydd , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 73 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:73 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.