Mae Adolygwyr Cymheiriaid fel arfer yn ffurfio rhan o dîm amlddisgyblaethol ac mae eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar arferion a phrofiad cyfredol. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gwblhau naill ai'n bersonol neu o bell o bryd i'w gilydd.
Dyddiad Cau: 31 Mawrth

Manylion y swydd wag
Sefydliad: Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Rôl: Adolygydd Cymheiriaid Nyrsys Cofrestredig
Cyflog: £275 y dydd, ac amser teithio a threuliau teithio a chynhaliaeth
Hyd: Tair blynedd
Diben y swydd
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn rheoleiddio darparwyr Gofal Iechyd Annibynnol ac yn arolygu Gwasanaethau'r GIG yng Nghymru yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd y mae angen eu gwella.
Rydym yn defnyddio Adolygwyr Cymheiriaid Nyrsys Cofrestredig ar draws amrywiaeth o'n gweithgareddau, gan gynnwys arolygu, adolygu ac ymchwilio i wasanaethau Gofal Iechyd Annibynnol a gwasanaethau'r GIG ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol, ymhlith eraill:
- Arolygiadau o Ysbytai Acíwt ac Ysbytai Cymunedol y GIG
- Arolygiadau o Wasanaethau Gofal Iechyd Annibynnol
- Arolygiadau o Unedau Iechyd Meddwl
- Arolygiadau o Wasanaethau Anableddau Dysgu
- Ymweliadau Cofrestru â Gwasanaethau Gofal Iechyd Annibynnol
- Adolygiadau Arbennig a Thematig.
Rydym yn chwilio am Nyrsys Anableddau Dysgu Cofrestredig â phrofiad o weithio yn y lleoliadau clinigol canlynol:
- Gwasanaethau Anableddau Dysgu
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl
- Timau Anableddau Dysgu Cymunedol
- CAMHS.
Byddwn yn defnyddio gwybodaeth a sgiliau'r Adolygydd Cymheiriaid Nyrsys Cofrestredig i sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar dystiolaeth, ymarfer a phrofiad cyfredol. Bydd hyn yn ein helpu i amlygu ymarfer da ac i atgyfnerthu a rhannu cydymffurfiaeth â Safonau Gofal Iechyd o fewn y GIG a'r Sector Gofal Iechyd Annibynnol er mwyn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd a gwella gwasanaethau i gleifion.
Tasgau allweddol
- Gweithio fel rhan o dîm Arolygu, gyda chymorth a chyfarwyddyd gan staff AGIC.
- Teithio ledled Cymru i arolygu'r amgylchedd ffisegol, polisïau/gweithdrefnau, cyfarpar, ardystiadau, cofnodion cleifion a chofnodion eraill mewn gwasanaethau gofal iechyd
- Cyfweld â staff a chleifion.
- Rheoli amser yn effeithiol, gan gynnwys paratoi ar gyfer yr ymweliad arolygu drwy ddarllen adroddiadau gwybodaeth cyn yr arolygiad ac adroddiadau arolygu blaenorol.
- Ymateb i faterion sy'n peri pryder, fel y bo'n briodol, a thrwy drafod â Rheolwr Arolygu AGIC.
- Gwneud arsylwadau ac argymhellion yn seiliedig ar eich barn glinigol a phroffesiynol eich hun, gan ystyried rhesymeg glinigol, safbwyntiau a buddiannau cleifion, ac unrhyw Reoliadau a Safonau perthnasol sydd ar waith.
- Gwneud cofnodion cywir a chynhwysfawr o'ch canfyddiadau yn ystod yr ymweliad, gan ddefnyddio'r adnoddau arolygu, a chyfrannu at y cyfarfod adborth ar ddiwedd yr Arolygiad gan ddefnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd.
- Adolygu a gwneud sylwadau yn ôl yr angen a chyn cyhoeddi adroddiadau arolygu er mwyn sicrhau eu bod yn gywir.
- Cynnal ymweliadau arolygu dilynol byrrach â phwyslais penodol (yn ôl yr angen).
- Dangos parch tuag at amrywiaeth a dinasyddiaeth staff, cleifion ac eraill, a dealltwriaeth ohonynt.
- Mynychu hyfforddiant sefydlu a hyfforddiant arall y cred AGIC ei fod yn angenrheidiol.
- Gweithredu fel llysgennad ar ran AGIC drwy hyrwyddo gwaith yr Arolygiaeth a rhannu arferion gorau.
Meini Prawf Penodol i'r Swydd
- Cofrestriad cyfredol perthnasol â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
- O leiaf dair blynedd o brofiad o ymarfer parhaus
- Gwybodaeth a hyfforddiant cyfredol mewn perthynas â Diogelu (oedolion a phlant); Y Ddeddf Galluedd Meddyliol a Threfniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid.
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
- Profiad a dealltwriaeth dda o lywodraethu clinigol gan gynnwys gweithredu a monitro safonau clinigol a phroffesiynol yn effeithiol.
- Profiad o brosesau rheoli risg, gan gynnwys rhoi gwybod am ddigwyddiadau ac ymdrin â chwynion yn effeithiol.
- Sgiliau ysgrifennu adroddiadau.
- Ymrwymiad amlwg i gydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a gwrando rhagorol.
- Ymagwedd broffesiynol iawn sy’n canolbwyntio ar y claf, ynghyd â gwerthoedd cryf o ran gofal diogel, tosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
- Sgiliau arsylwi, asesu a dadansoddi rhagorol.
- Y gallu i weithio'n effeithiol ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm.
Y gallu i ddefnyddio amrywiaeth o systemau a dyfeisiau TG yn effeithiol ac yn annibynnol.
Meini prawf dymunol
- Yn ymgymryd ag ymarfer clinigol ar hyn o bryd.
- Profiad o ymarfer nyrsio mewn amrywiaeth o leoliadau.
- Tystiolaeth o weithio gyda phobl agored i niwed.
- Gwybodaeth a/neu hyfforddiant cyfredol mewn perthynas â Deddf Iechyd Meddwl 1983; Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010;
- Profiad blaenorol o brosesau arolygu, archwilio a/neu sicrhau ansawdd.
- Gwybodaeth am amcanion a blaenoriaethau AGIC a dealltwriaeth ohonynt.
Cyfleoedd datblygu
Bydd adolygwyr cymheiriaid allanol yn meithrin profiad arolygu ac adolygu a byddant yn gwella eu sgiliau dadansoddi, drafftio, gweithio mewn tîm a chyfathrebu.
Mae gweithio gydag AGIC yn rhoi cyfle i Adolygwyr Cymheiriaid drosglwyddo arferion da i'w meysydd gwaith eu hunain.
Bydd diwrnodau sefydlu a/neu hyfforddiant a gynigir i adolygwyr cymheiriaid yn cael eu neilltuo ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
Y Gymraeg
Mae AGIC yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei gweithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Bydd Adolygwyr Cymheiriaid Nyrsys Cofrestredig yn destun gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Gwybodaeth Ychwanegol
Patrwm Gwaith
Rhoddir cytundeb fframwaith i Adolygwyr Cymheiriaid Nyrsys Anableddau Dysgu Cofrestredig er mwyn darparu gwasanaethau ar sail hyblyg, gan gynnwys gweithio y tu allan i oriau. O dan y trefniant hwn, nid oes unrhyw rwymedigaeth ar AGIC i gynnig unrhyw aseiniadau ac nid oes unrhyw rwymedigaeth ar Adolygwyr Cymheiriaid Nyrsys Anableddau Dysgu Cofrestredig i dderbyn aseiniadau. Bydd AGIC yn cynnig aseiniadau pan fydd angen gwasanaethau.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cymorth Arolygiadau AGIC yn AGIC.arolygu@llyw.cymru neu ffoniwch 0300 062 8163.
Sut i wneud cais
Cwblhewch y Ffurflen Gais am swydd Adolygydd Cymheiriaid Nyrsys Cofrestredig sydd ar gael ar y wefan a'i chyflwyno drwy e-bost i AGIC.arolygu@llyw.cymru.
Os oes angen y ffurflen gais arnoch mewn fformat neu iaith wahanol, cysylltwch â ni:
0300 062 8163
Dogfennau
-
Adolygydd Cymheiriaid Nyrs Anabledd Dysgu Cofrestredig - Manyleb Swydd , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 72 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:72 KB
-
Adolygydd Cymheiriaid Nyrs Anabledd Dysgu Cofrestredig - Ffurflen gais , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 96 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:96 KB