Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiadau ac adroddiadau ar y Cyd

Mae AGIC yn gweithio'n agos gyda rheoleiddwyr ac arolygiaethau eraill yng Nghymru, a hefyd gydag arolygiaethau eraill yn y DU.

Yn ystod ein gwaith ar sicrwydd yng Nghymru, rydym yn gweithio'n agos gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Estyn ac Archwilio Cymru. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 yn cefnogi trefniadau gweithio ar y cyd rhwng y cyrff arolygu ac archwilio yng Nghymru.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Gwaith Dilynol ar yr Adolygiad ar y Cyd o Drefniadau Llywodraethu Ansawdd

Mae Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad ar y cyd sy'n disgrifio'r cynnydd a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrth atgyfnerthu ei drefniadau llywodraethu ansawdd yn dilyn ein gwaith adolygu ar y cyd gwreiddiol yn 2019.

24 Awst 2023

Arolygiaeth Gofal Cymru sy'n arwain yr adolygiad ar y cyd, gyda chyfraniadau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Estyn.

Adolygiad ar y Cyd gan Arolygiaethau o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA): Sir Ddinbych 2023

Ein canfyddiadau am effeithiolrwydd trefniadau gweithio mewn partneriaeth a gwaith asiantaethau unigol yn Sir Ddinbych.

17 Mai 2023

Canfyddiadau allweddol ac argymhellion o'n hadolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Darllenwch ymlaen i ddysgu am ganfyddiadau allweddol ein hadroddiad blynyddol diweddaraf ar y trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid, a gynhyrchwyd ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Trosolwg o Drefniadau Llywodraethu Ansawdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: Crynodeb o'r cynnydd a wnaed yn erbyn argymhellion

Mae ein hadroddiad ar y cyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn yr 14 o argymhellion gwreiddiol a wnaed yn ein hadroddiad ar y cyd yn 2019.

18 Mai 2021

Darllenwch ganfyddiadau allweddol o'n hadroddiad monitro blynyddol ar Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Dyma'r degfed adroddiad monitor blynyddol o’r fath ar y gyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Adolygiad ar y cyd o drefniadau llywodraethu ansawdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gyda Archwilio Cymru.