Adroddiad ar y cyd rhyngom ni ac Arolygiaeth Gofal Cymru.
Dyma'r degfed adroddiad monitro ar weithrediadau'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yng Nghymru.
Beth yw colli rhyddid?
Colli rhyddid yw:
- pan fo person dan oruchwyliaeth a rheolaeth barhaus neu lwyr, ac
- nid yw'n rhydd i adael, ac
- nid oes ganddo'r gallu i roi caniatâd i'r trefniadau hyn.
Beth yw'r trefniadau diogelu?
Mae'r trefniadau'n bodoli i rymuso a diogelu unrhyw unigolyn ag anhwylder meddyliol, lle mae amheuaeth ynghylch ei alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ei ofal pan fo'n glaf yn yr ysbyty, neu'n breswyliwr mewn gofal cartref.
Dogfennau
-
Trefniadau Diogelurhag Colli Rhyddid – Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Iechyd 2018-19 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 595 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:595 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.