Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Gwaith Dilynol ar yr Adolygiad ar y Cyd o Drefniadau Llywodraethu Ansawdd

Mae Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad ar y cyd sy'n disgrifio'r cynnydd a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrth atgyfnerthu ei drefniadau llywodraethu ansawdd yn dilyn ein gwaith adolygu ar y cyd gwreiddiol yn 2019.

Adroddiad ar y cyd archwilio Cymru Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Tynnodd ein hadroddiad ar y cyd yn 2019 sylw at nifer o wendidau sylfaenol yn nhrefniadau'r Bwrdd Iechyd mewn perthynas ag arweinyddiaeth, ffocws strategol a'r trefniadau ar gyfer craffu ar ddiogelwch cleifion a risgiau i gleifion, y trefniadau ar gyfer rheoli pryderon a chwynion, a'r diwylliant sefydliadol. Roeddem yn pryderu bod y gwendidau hyn yn cael effaith andwyol ar allu'r Bwrdd Iechyd i nodi ac ymateb i broblemau o ran ansawdd a diogelwch gofal cleifion. Roedd ein hadroddiad yn 2019 yn cynnwys cyfanswm o 14 o argymhellion ar gyfer gwella.

Nododd ein hadolygiad dilynol fod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth ymdrin â phryderon ac argymhellion ein hadroddiad yn 2019. Mae ganddo ffocws strategol cryfach ar ansawdd a diogelwch cleifion, ac mae mwy o eglurder o ran rolau a chyfrifoldebau mewn perthynas ag ansawdd a diogelwch cleifion o gymharu â 2019.