Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad cenedlaethol o ddefnyddio Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yng Nghymru 2021 - 2022

Canfyddiadau allweddol ac argymhellion o'n hadolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Ar y cyd ag AGC, ni sy'n gyfrifol am fonitro ac adrodd ar DoLS, ac yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar y ceisiadau a dderbynnir gan Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol bob blwyddyn.

Beth yw'r Trefniadau Diogelu

Mae'r Trefniadau Diogelu yn bodoli er mwyn grymuso ac amddiffyn unigolion nad oes ganddynt alluedd meddyliol. Maent yn darparu fframwaith cyfreithiol er mwyn atal achosion o dorri'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol gan fod yn rhaid cael awdurdodiad cyn y gellir amddifadu unigolyn o'i ryddid.

Canfyddiadau Allweddol 2021-22

  • Mae'r cyfnod a gymerwyd i brosesu ceisiadau yn dal i fod yn wael. Rhaid i gyrff goruchwylio sicrhau y caiff hawliau pobl eu diogelu ac y caiff asesiadau ar gyfer pob cais eu cynnal o fewn y nifer o ddiwrnodau a nodwyd yn unol â Chod Ymarfer DoLS.
  • Ar y cyfan, gwelwyd cynnydd bach yn nifer y ceisiadau DoLS a gafodd awdurdodau lleol yn 2021-22, er bod y niferoedd wedi parhau i fod yn is na chyn pandemig COVID-19.
  • Caiff y rhan fwyaf o bobl eu cefnogi a'u cynrychioli mewn materion sy'n ymwneud â'u hachos amddifadu o ryddid. Mae hyn yn welliant sylweddol o gymharu â pherfformiad y llynedd.
  • Roedd mwyafrif y ceisiadau DoLS yn parhau i fod ar gyfer pobl hŷn, gyda 87% o'r ceisiadau ar gyfer pobl dros 65 oed. Roedd y rhan fwyaf o'r ceisiadau ar gyfer DoLS yn parhau i fod o gartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn a wardiau ysbyty ar gyfer oedolion hŷn.

Darllenwch yr adroddiad llawn a'r holl ganfyddiadau allweddol isod.