Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Ni yw'r arolygiaeth a'r rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru

Chwiliwch am wasanaeth gofal iechyd neu adroddiad arolygu

Ein diweddariadau diweddaraf

Newyddion

Canmol Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghanolfan Eni Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, ond gan nodi meysydd i'w gwella ymhellach

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o'r gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Cynhaliwyd yr arolygiad o'r ganolfan eni dros dri diwrnod dilynol ym mis Chwefror 2025.

Cyhoeddedig: 9 Mai 2025
Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Gweithredol 2025-2026

Dewch i wybod am ein blaenoriaethau a'n camau gweithredu ar gyfer 2025-2026

Cyhoeddedig: 8 Mai 2025
Datganiad Sefyllfa ar Ofal mewn Coridorau

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cydnabod yr heriau difrifol sy'n gysylltiedig â gofal mewn coridorau mewn ysbytai ledled Cymru. Gall yr arfer hwn beryglu diogelwch ac urddas cleifion ac ansawdd y gofal yn gyffredinol. Ni ddylai gofal mewn coridorau gael ei normaleiddio.

Cyhoeddedig: 1 Mai 2025
Gwelliannau wedi'u nodi yn Uned Gofal Dementia Ysbyty Cwm Cynon

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o ward iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty Cwm Cynon yn Rhondda Cynon Taf. Mae Ward 7, sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn uned gyda 14 o welyau sy'n darparu gofal dementia. Cynhaliwyd yr arolygiad dros dri diwrnod dilynol ym mis Ionawr 2025.

Cyhoeddedig: 1 Mai 2025
Cysylltu â ni dros y Pasg

Y Pasg hwn, bydd ein swyddfeydd ar gau o 5pm ddydd Iau, 17 Ebrill. Bydd ein horiau busnes arferol yn ailddechrau ddydd Mawrth, 22 Ebrill.

Cyhoeddedig: 16 Ebrill 2025