Arolygiad yn Nodi Rhai Newidiadau Cadarnhaol ond Heriau Parhaus yn Uned Iechyd Meddwl Ysbyty Gwynedd
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei hadroddiad arolygu iechyd meddwl diweddaraf yn dilyn ymweliad dirybudd ag Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd, sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ystyriodd yr arolygiad, a gynhaliwyd ym mis Medi 2025, ansawdd gofal iechyd meddwl, profiad cleifion, ac arweinyddiaeth ar wardiau Aneurin, Cynan, a Taliesin, yn ogystal ag Ystafell Iechyd Meddwl yr uned.
Ar y cyfan, nododd yr arolygwyr fod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud ers arolygiad blaenorol AGIC yn 2023. Gwelodd yr arolygwyr waith tîm ac ymroddiad cadarn, gyda'r staff yn gweithio'n galed i ddiwallu anghenion y cleifion hyd yn oed mewn amgylchiadau heriol. Roedd y staff yn darparu gofal tosturiol a pharchus, a dywedodd y cleifion a'u teuluoedd eu bod yn hawdd mynd atynt, yn sylwgar, ac yn gefnogol. Nodwyd bod presenoldeb staff dwyieithog a'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg yn gryfder penodol, a oedd yn helpu i sicrhau bod y cleifion yn teimlo'n gyfforddus a'u bod yn cael eu deall.
Nododd yr arolygiad weithdrefnau diogelu cadarn, mesurau atal a rheoli heintiau effeithiol, ac ymrwymiad clir i ddiogelwch cleifion. Cafodd y staff eu canmol am eu proffesiynoldeb, gyda gwiriadau iechyd a diogelwch rheolaidd, asesiadau risg cynhwysfawr, ac ymatebion prydlon i ddigwyddiadau. Roedd gwasanaethau eirioli a chymorth allanol ar gael i'r cleifion, ond nododd y staff awydd am bresenoldeb eiriolaeth mwy strwythuredig a mynych.
Nodwyd nifer o feysydd i'w gwella hefyd, gan gynnwys y ffaith bod diffyg rhaglenni gweithgareddau therapiwtig strwythuredig ar bob un o'r wardiau yn parhau i beri pryder, ac nad oedd unrhyw gynnydd wedi'i wneud ers yr arolygiad blaenorol yn 2023. Nododd y cleifion a'r staff ddiffyg gweithgareddau ystyrlon, sy'n hanfodol i adfer. Er bod ystafell gweithgareddau a champfa ar gael, nid oedd y rhain yn cael eu defnyddio ddigon oherwydd cyfyngiadau staffio, ac roedd angen atgyweirio rhai darnau o gyfarpar. Argymhellodd AGIC y dylai'r bwrdd iechyd flaenoriaethu amserlenni gweithgareddau rheolaidd strwythuredig a sicrhau bod digon o staff ar gael i gefnogi cyfranogiad.
Nododd yr arolygwyr heriau'r uned mewn perthynas â chofnodion papur, gan gynnwys anawsterau o ran cwblhau dogfennau a'u storio, a hygyrchedd. Dylai'r bwrdd iechyd adolygu'r system gyfredol ac ystyried rhoi system cofnodion electronig ar waith. Gwnaethom hefyd nodi bod rhai cofnodion a siartiau meddyginiaeth yn anghyflawn, gan gynnwys diffyg ffurflenni sy'n ofynnol yn gyfreithiol, a gwybodaeth anghyson am alergeddau, a allai effeithio ar ddiogelwch y cleifion.
Roedd amgylchedd cyffredinol yr uned yn peri pryder, ac er ei fod yn lân ar y cyfan, roedd angen rhoi sylw i rai ardaloedd er mwyn cynnal amgylchedd diogel a therapiwtig. Roedd enghreifftiau yn cynnwys nifer cyfyngedig o seddi yn yr ardaloedd cymunedol, yr angen i wneud gwaith cynnal a chadw yn yr ardd, ac ystafelloedd gwely a rennir heb gyfleusterau en-suite. Nododd yr arolygwyr hefyd fod angen gosod gwell arwyddion diogelwch ac atgyweirio rhai cyfleusterau, fel y gwresogyddion dŵr, er mwyn cynnal amgylchedd sy'n cefnogi adferiad.
Roedd canfyddiadau ychwanegol yn cynnwys materion yn ymwneud â storio meddyginiaeth, cadw cofnodion, ac anghysondebau o ran hyfforddiant staff, arfarniadau, a rheoli swyddi gwag. Dangosodd adborth gan y staff bryderon am lesiant, argaeledd adnoddau, a'r angen am fwy o bresenoldeb a chymorth gan yr uwch-reolwyr. Nodwyd bod absenoldeb parhaus seicolegydd ar y wardiau yn fwlch sylweddol mewn gofal, a bod prinder staff cyson wedi arwain at fwy o ddibyniaeth ar staff asiantaeth dros dro. Gofynnodd yr arolygwyr i'r bwrdd iechyd adolygu'r model staffio shifftiau nos ar Ward Cynan, gan mai dim ond un nyrs gofrestredig oedd ar ddyletswydd, er mwyn sicrhau bod y cymysgedd sgiliau yn adlewyrchu aciwtedd a dibyniaeth y cleifion.
Er gwaethaf yr heriau hyn, canfu'r arolygiad sawl agwedd gadarnhaol ar y gofal. Cafodd y staff eu canmol am eu gwydnwch, eu gwaith tîm, a'u hymrwymiad i lesiant y cleifion. Dangosodd yr uned fentrau gwella ansawdd parhaus, gan gynnwys uwch-nyrs yn cerdded o amgylch yr uned yn rheolaidd, cyfarfodydd pwyllgor, ac ymgysylltu ag asiantaethau partner i gefnogi gofal y cleifion.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
Nododd yr arolygiad o Uned Hergest agweddau cadarnhaol ar y gofal, gan gynnwys gwaith tîm da, proffesiynoldeb, a chymorth i'r cleifion. Fodd bynnag, mae meysydd i'w gwella wedi'u nodi, fel gweithgareddau therapiwtig strwythuredig, gwybodaeth gliriach i gleifion, prosesau cadw cofnodion, a heriau penodol o ran yr amgylchedd a staffio. Bydd AGIC yn parhau i weithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau yr eir i'r afael â'r materion hyn a chefnogi gwelliannau parhaus i ofal a diogelwch y cleifion.
Medi 2025 – Arolygiad o Wasanaeth Iechyd Meddwl y GIG – Hergest Unit, Ysbyty Gwynedd, Bangor