Arolygiad yn nodi gofal cryf sy'n canolbwyntio ar y claf ochr yn ochr â meysydd i'w gwella mewn Uned Iechyd Meddwl yn y Fenni
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei chanfyddiadau o arolygiad dirybudd tridiau o hyd o Uned Tŷ Skirrid yn Ysbyty Cwrt Maindiff, y Fenni, sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae'r uned yn darparu gwasanaeth adsefydlu i gleifion gwrywaidd, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Canfu'r arolygwyr fod y gwasanaeth yn blaenoriaethu annibyniaeth y cleifion, a bod ffocws cryf ar gefnogi'r broses o feithrin sgiliau ac hailintegreiddio i'r gymuned. Roedd y rhyngweithio rhwng y staff a'r cleifion yn barchus ac yn hamddenol, a dangosodd y staff ymrwymiad clir i ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon. Roedd y cleifion yn cael eu hannog i gymryd cyfrifoldeb am dasgau dyddiol ac roeddent yn cael eu cynnwys wrth gynllunio eu gofal eu hunain ac wrth wneud penderfyniadau am eu triniaeth. Roedd y tîm amlddisgyblaethol yn cydweithio â'i gilydd, a dywedodd y staff eu bod yn teimlo bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u bod yn cael eu parchu yn ystod rowndiau ward a fforymau'r tîm amlddisgyblaethol.
Nododd yr arolygiad nifer o arferion cadarnhaol, gan gynnwys prosesau rheoli risg cadarn, prosesau rheoli meddyginiaethau effeithiol, ac amgylchedd ward hamddenol a chefnogol. Roedd y cleifion yn cael budd o fewnbwn therapiwtig wedi'i deilwra ac amrywiaeth o weithgareddau ystyrlon, ac roedd yr adborth gan y cleifion a'r staff yn gadarnhaol ar y cyfan.
Er bod y canfyddiadau cyffredinol yn galonogol, nododd yr arolygwyr feysydd i'w gwella. Roedd y rhain yn cynnwys atgyfnerthu strwythur a chysondeb yr amserlen o weithgareddau ar gyfer y cleifion, gwella agweddau ar yr amgylchedd ffisegol i gefnogi cwsg a phreifatrwydd, a mynd i'r afael â bylchau yn hyfforddiant y staff. Cafodd pryder uniongyrchol ei ddatrys yn ystod yr arolygiad pan ddaethpwyd o hyd i feddyginiaeth yr oedd y dyddiad defnyddio arni wedi mynd heibio.
Pwysleisiodd yr arolygwyr fod angen i'r gwasanaeth atgyfnerthu agweddau ar y trefniadau cadw cofnodion drwy sicrhau bod statws cyfreithiol pob claf yn cael ei gofnodi'n gywir ar y siartiau meddyginiaeth a chynnal archwiliadau rheolaidd o adolygiadau o gynlluniau gofal a dogfennaeth y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae angen gwella'r amgylchedd ffisegol i gefnogi llesiant y cleifion. Roedd hyn yn cynnwys drysau ystafelloedd gwely heb baneli gweld, a oedd yn golygu bod yn rhaid i'r staff agor y drysau yn ystod gwiriadau nos, a oedd yn amharu ar gwsg y cleifion.
Roedd cyfraddau hyfforddiant gorfodol yn cael eu cynnal yn dda ar y cyfan; fodd bynnag, nodwyd bylchau mewn meysydd allweddol, yn benodol mewn perthynas â hyfforddiant cynnal bywyd sylfaenol a hyfforddiant ar y Ddeddf Iechyd Meddwl. Argymhellodd yr arolygwyr hefyd y dylid adolygu agosrwydd yr ardal smygu at adeilad y brif uned er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth ddi-fwg.
Roedd prosesau llywodraethu a goruchwylio ar waith, ac roedd yr uned yn cynnal cydberthnasau gwaith da â gwasanaethau iechyd meddwl ac awdurdodau lleol eraill i gefnogi'r broses o gynllunio i ryddhau cleifion mewn modd amserol. Er bod y gweithlu yn sefydlog ar y cyfan a bod y staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, nododd yr arolygwyr fod pryderon am lefelau staff nyrsio yn ystod y nos o hyd.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
"Nododd ein harolygiad o Uned Tŷ Skirrid dîm ymroddedig a oedd yn gweithio i gefnogi annibyniaeth a llesiant y cleifion. Er bod cryfderau clir o ran ymgysylltu â chleifion a gwaith amlddisgyblaethol, mae'n bwysig bod y bwrdd iechyd yn mynd i'r afael â'r meysydd i'w gwella a nodwyd er mwyn sicrhau bod y safonau gofal uchaf posibl yn cael eu cynnal. Byddwn yn parhau i fonitro cynnydd wrth i'r bwrdd iechyd roi ei gynllun gwella ar waith."
Hydref 2025 – Arolygiad o Wasanaeth Iechyd Meddwl y GIG – Ysbyty Cwrt Maindiff, Y Fenni