Rydym yn arolygu ysbytai annibynnol (gan gynnwys hosbisau), clinigau annibynnol ac asiantaethau meddygol annibynnol.
Sut rydym yn arolygu
Rydym yn ystyried a yw gwasanaethau gofal iechyd annibynnol yn gwneud y canlynol:
- Cyrraedd y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd Annibynnol yng Nghymru.
- Cydymffurfio â Deddf Safonau Gofal 2000
- Cydymffurfio â Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011
Gall ein harolygiadau o ysbytai annibynnol (gan gynnwys hosbisau), clinigau annibynnol ac asiantaethau meddygol annibynnol, fod yn arolygiadau lle rhoddwyd rhybudd neu'n arolygiadau dirybudd. Cynhelir ein harolygiadau gan o leiaf un arolygydd o AGIC ac adolygydd allanol (sydd â phrofiad proffesiynol perthnasol).
Cyhoeddir canfyddiadau ein harolygiadau ar ein gwefan.
Mae'r ddogfen ganlynol yn rhoi arweiniad ar yr hyn y byddwn yn ei ystyried yn ystod arolygiad. Os hoffech gopi o'n llyfr gwaith arolygu, cysylltwch ag AGIC.arolygu@llyw.cymru gan nodi pa fath o lyfr gwaith arolygu sydd ei angen arnoch.
Dogfennau
-
Sut mae AGIC yn arolygu gwasanaethau annibynnol? , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 322 KBCyhoeddedig:322 KB