Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau annibynnol sy'n defnyddio cyfarpar laser Dosbarth 3B/4 neu oleuni pwls dwys (IPL)

Rydym yn arolygu gwasanaethau gofal iechyd annibynnol sy'n defnyddio cyfarpar laser 3B/4 a ffynhonnell goleuni pwls dwys (IPL) er mwyn cadarnhau eu bod yn ddiogel i'r bobl sy'n cael triniaeth.

Beth yw laserau Dosbarth 3B/4 a ffynonellau Goleuni Pwls Dwys (IPL)?

Gellir defnyddio laserau Dosbarth 3B/4 a ffynonellau goleuni pwls dwys (IPL) mewn amrywiaeth o wasanaethau ac at amrywiaeth o ddibenion. Mae enghreifftiau o'u defnydd yn cynnwys:

  • Triniaeth feddygol mewn ysbytai acíwt
  • Triniaeth ddeintyddol
  • Llawdriniaeth plygiant y llygad (a elwir yn llawdriniaeth ‘laser’ ar y llygad)
  • Cyflyrau dermatolegol
  • Mân driniaethau cosmetig neu driniaethau cosmetig anfewnwthiol (a gaiff eu cynnal yn aml gan weithwyr harddwch neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol), fel gwaredu blew, gwaredu tatŵ a thriniaethau ar gyfer mannau geni neu farciau eraill ar y croen

Mae laserau Dosbarth 3B/4 a goleuni pwls dwys yn ddyfeisiau pwerus a allai achosi anaf difrifol i'r rhai sy'n eu gweithredu, yr unigolion sy'n cael y driniaeth a phersonau eraill sy'n agos at y cyfarpar os byddant yn ddiffygiol neu'n cael eu defnyddio'n anghywir. Gallent hefyd gynnau deunyddiau fflamadwy. 

Dyma pam ei bod yn bwysig bod gwasanaethau yn defnyddio'r dyfeisiau hyn yn ddiogel a'u bod wedi'u cofrestru â ni fel y bo'n briodol.

 

Sut rydym yn arolygu 

Rydym yn ystyried a yw gwasanaethau gofal iechyd annibynnol sy'n defnyddio cyfarpar laser Dosbarth 3B/4 a ffynhonnell Goleuni Pwls Dwys (IPL) yn gwneud y canlynol:

Mae ein harolygiadau o wasanaethau gofal iechyd annibynnol sy'n defnyddio cyfarpar laser Dosbarth 3B/4 a ffynhonnell IPL yn arolygiadau lle rhoddwyd rhybudd fel arfer. Fel arfer, caiff gwasanaethau hyd at 12 wythnos o rybudd am arolygiad.

Caiff ein harolygiadau eu cynnal gan o leiaf un arolygydd o AGIC.

Cyhoeddir canfyddiadau ein harolygiadau ar ein gwefan.

 

Mae'r ddogfen ganlynol yn rhoi arweiniad ar yr hyn y byddwn yn ei ystyried yn ystod arolygiad. Os hoffech gopi o'n llyfr gwaith arolygu, cysylltwch ag AGIC.arolygu@llyw.cymru gan nodi pa fath o lyfr gwaith arolygu sydd ei angen arnoch.

Dogfennau