Rydym yn arolygu gwasanaethau anableddau dysgu annibynnol ar gyfer cleifion mewnol er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gofal da.
Sut rydym yn arolygu
Rydym yn ystyried a yw gwasanaethau yn gwneud y canlynol:
- Cyrraedd y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd Annibynnol yng Nghymru
- Cydymffurfio â Deddf Safonau Gofal 2000
- Cydymffurfio â Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011
- Cydymffurfio â Deddf Iechyd Meddwl 1983, Deddf Galluedd Meddyliol 2005, a'r trefniadau ar gyfer gweithredu'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid
- Cyrraedd unrhyw safonau proffesiynol perthnasol eraill a gweithredu'n unol â chanllawiau proffesiynol perthnasol eraill lle y bo'n gymwys
Fel arfer, arolygiadau dirybudd a gynhelir o wasanaethau anableddau dysgu. Mae hyn yn ein galluogi i weld y gwasanaethau fel maent yn gweithredu fel arfer. Ni chaiff y gwasanaeth unrhyw rybudd ymlaen llaw am arolygiad dirybudd.
Cynhelir yr arolygiadau gan o leiaf un arolygydd o AGIC ac adolygydd allanol (sydd â phrofiad proffesiynol perthnasol).
Mae'r ddogfen isod yn rhoi arweiniad ar yr hyn y byddwn yn ei ystyried yn ystod arolygiad. Os hoffech gopi o'n llyfr gwaith arolygu, cysylltwch ag AGIC.arolygu@llyw.cymru gan nodi pa fath o lyfr gwaith arolygu sydd ei angen arnoch.
Dogfennau
-
Sut mae AGIC yn arolygu gwasanaethau annibynnol? , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 322 KBCyhoeddedig:322 KB