Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio at ddibenion meddygol e.e. pelydr-X

Beth yw ymbelydredd ïoneiddio ym maes gofal iechyd?

Defnyddir ymbelydredd ïoneiddio ym maes gofal iechyd mewn tair ffordd:

  1. Radioleg diagnostig, sy'n defnyddio peiriannau pelydr-X i dynnu lluniau o du mewn i gorff y claf
  2. Meddygaeth niwclear, sy'n defnyddio sylweddau ymbelydrol a gaiff eu rhoi yng nghorff y claf er mwyn gwneud diagnosis neu ddarparu triniaeth
  3. Radiotherapi, sy'n defnyddio sawl math a ffynhonnell o ymbelydredd ïoneiddio i wella neu leddfu symptomau canser a chlefydau eraill

Mae'r tri maes hyn wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol) 2017 (fel y'u diwygiwyd) (IR(ME)R), sy'n darparu fframwaith i ddiogelu cleifion.

Rhaid i bob gwasanaeth gofal iechyd annibynnol sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio gydymffurfio â'r Rheoliadau Ymbelydredd. 

 

Sut rydym yn monitro cydymffurfiaeth

AGIC sy'n gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth â Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol) 2017 (IR(ME)R), ac rydym yn gwneud hyn drwy:

  • Arolygu gwasanaethau sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio
  • Adolygu digwyddiadau y rhoddwyd gwybod i ni amdanynt sy'n arwain at gysylltiad ychwanegol neu anfwriadol arwyddocaol 

 

Sut rydym yn arolygu 

Rydym yn ystyried a yw gwasanaethau gofal iechyd annibynnol sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio yn gwneud y canlynol:

Fel arfer, rydym yn rhoi rhybudd ymlaen llaw o'n harolygiadau o wasanaethau gofal iechyd annibynnol sy'n defnyddio ymbelydredd ïoneiddio. Caiff gwasanaethau hyd at 12 wythnos o rybudd am arolygiad.

Cynhelir yr arolygiadau gan o leiaf un o arolygwyr AGIC gyda chymorth Uwch-swyddog Clinigol o Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), sy'n gweithredu fel cynghorydd.

 

Os hoffech gopi o'n llyfr gwaith arolygu, cysylltwch ag AGIC.arolygu@llyw.cymru gan nodi pa fath o lyfr gwaith arolygu sydd ei angen arnoch.

Dogfennau