Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau iechyd meddwl

Rydym yn arolygu gwasanaethau iechyd meddwl annibynnol ar gyfer cleifion mewnol er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gofal da.

Sut rydym yn arolygu 

Rydym yn ystyried a yw gwasanaethau iechyd meddwl annibynnol yn gwneud y canlynol:

Fel arfer, arolygiadau dirybudd a gynhelir o wasanaethau iechyd meddwl. Mae hyn yn ein galluogi i weld y gwasanaethau fel maent yn gweithredu fel arfer. Ni chaiff y gwasanaeth unrhyw rybudd ymlaen llaw am arolygiad dirybudd.

Cynhelir ein harolygiadau gan o leiaf un arolygydd o AGIC, adolygydd allanol (sydd â phrofiad proffesiynol perthnasol) ac adolygydd profiad y claf (i siarad â chleifion am eu profiadau o gael gofal).

Cyhoeddir canfyddiadau ein harolygiadau ar ein gwefan.

 

Mae'r ddogfen ganlynol yn rhoi arweiniad ar yr hyn y byddwn yn ei ystyried yn ystod arolygiad. Os hoffech gopi o'n llyfr gwaith arolygu, cysylltwch ag AGIC.arolygu@llyw.cymru gan nodi pa fath o lyfr gwaith arolygu sydd ei angen arnoch.

 

Dogfennau