Neidio i'r prif gynnwy

Trefniadau diogelu rhag colli rhyddid

Monitro defnydd y Trefniadau diogelu rhag colli rhyddid.

Beth yw'r trefniadau?

Maent yn berthnasol i bobl sydd heb y gallu i gytuno i dderbyn triniaeth neu ofal mewn ysbyty neu gartref gofal, ac ni ellir ond eu defnyddio pan nad yw’n briodol cadw pobl o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. 

Datblygwyd y Trefniadau er mwyn sicrhau y cynhelir hawliau dynol unigolion o’r fath, ac y darperir y gofal y mae arnynt ei angen dan yr amgylchiadau lleiaf caethiwus.

Sut rydym yn monitro'r defnydd o'r Trefniadau Diogelu

Rydym yn gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i fonitro gweithrediad y Trefniadau Diogelu gan y GIG ac ysbytai annibynnol cofrestredig.

Rydym yn gwneud hwn trwy:

  • Ymweld ag ysbytai yn unol â’n rhaglen arferol o ymweliadau.
  • Siarad â phobl ac archwilio cofnodion.
  • Casglu ystadegau ac archwilio polisïau a threfniadau.

Bob blwyddyn rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar ein canfyddiadau.