Neidio i'r prif gynnwy

Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid: Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2015-16

Adroddiad ar y cyd rhyngom ni ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW)

Hwn yw’r saethfed adroddiad blynyddol ar y modd y gweithredir y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yng Nghymru.

Beth yw colli rhyddid?

Disgrifir achos o golli rhyddid fel a ganlyn:

  • pan fydd unigolyn dan oruchwyliaeth a rheolaeth barhaus neu gyfan gwbl, ac
  • nid yw'n rhydd i adael, ac
  • nid oes ganddo'r galluedd i gydsynio i'r trefniadau hyn.

Beth yw’r Trefniadau Diogelu?

Mae’r Trefniadau Diogelu yn bodoli i alluogi ac amddiffyn unrhyw unigolyn sydd ag anhwylder meddyliol, lle y mae amheuaeth ynglŷn â’i alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ei ofal, pan fydd yn glaf mewn ysbyty neu’n breswyliwr mewn cartref gofal.

Casgliadau

  • Cafwyd cynnydd parhaus yn nifer y ceisiadau o dan y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid a dderbyniwyd gan gyrff goruchwylio ledled Cymru, gan godi dros bymtheg y cant o 10,681 cais yn 2014/15 i 12,298.
  • Roedd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd fesul 100,000 o bobl ym mhob cyngor yn amrywio dros Gymru gyda chyfartaledd o 356 i bob 100,000.
  • Ni fodlonodd 74 y cant o geisiadau'n ymwneud ag awdurdodiadau brys a broseswyd gan gynghorau a byrddau iechyd y cyfnod amser o saith diwrnod ac ni lwyddodd dau gyngor i fodloni'r amserlenni ar gyfer asesiadau ar unrhyw rai o'r ceisiadau brys a dderbyniwyd ganddynt.
  • Cafodd ymron i 27 y cant o geisiadau naill ai i gynghorau neu i fyrddau iechyd eu penderfynu o fewn yr amserlenni gofynnol.
  • Cyfartaledd y gyfradd awdurdodi ledled cynghorau oedd 56 y cant a 38 y cant oedd y ffigur ar gyfer byrddau iechyd.
  • Cynyddodd y cyfnod amser roedd awdurdodiadau ar waith ers y llynedd ac roedd gwahaniaethau yn hyd cyfartalog yr amser y cafodd awdurdodiadau eu caniatáu ar draws y gwahanol ranbarthau.
  • Roedd nifer yr awdurdodiadau o dan y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid lle y cynhaliwyd adolygiad yn ystod y cyfnod yn dal yn gymharol isel – dim ond un y cant o awdurdodiadau. Ar y cyfan, roedd mwyafrif helaeth yr awdurdodiadau wedi darfod cyn i adolygiad gael ei gynnal. O'r 12,298 o geisiadau yn 2015/16, roedd Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol wedi ei benodi ar gyfer 336 ohonynt a chafodd 39 ohonynt eu hatgyfeirio at y Llys Gwarchod.