
Mae rôl yr Arweinydd Clinigol Meddygon Teulu yn un heriol ac mae'n gofyn am hygrededd proffesiynol, y gallu i gwestiynu penderfyniadau mewn ffordd gadarn nad yw'n wrthwynebol, a sgiliau dylanwadu a rhyngbersonol rhagorol. Rydym yn chwilio am feddygon teulu â dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y claf, gwybodaeth fanwl a phrofiad o weithio fel Meddyg Teulu mewn amrywiaeth o leoliadau.
Mae swydd yr Arweinydd Clinigol Meddygon Teulu yn cynnig y cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus ddylanwadu'n uniongyrchol ar y ffordd y caiff gofal Meddygon Teulu ei arolygu yng Nghymru.
Bydd yr Arweinydd Clinigol Meddygon Teulu yn chwarae rôl allweddol wrth sicrhau bod methodoleg arolygu AGIC yn effeithiol a bod tîm medrus o Adolygwyr Cymheiriaid Meddygon Teulu, Nyrsys Practis a Rheolwyr Practis ar waith.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr a all ddangos eu bod yn awyddus i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau Meddygon Teulu a ddarperir i gleifion yng Nghymru ac ymrwymiad i wneud hynny.
Dychwelwch eich ffurflen gais ynghyd â'ch CV i: agic.arolygu@llyw.cymru hyd at 17eg Hydref 2025.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag AGIC ar 0300 062 8163.
Dogfennau
-
Arweinydd Clinigol Meddygon Teulu - Canllawiau ar gyfer yr Ymgeisydd , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 72 KBCyhoeddedig:72 KB