
Mae rôl yr Arweinydd Deintyddol Clinigol yn un heriol ac mae'n gofyn am hygrededd proffesiynol, y gallu i gwestiynu penderfyniadau mewn ffordd gadarn nad yw'n wrthwynebol, a sgiliau dylanwadu a rhyngbersonol rhagorol. Rydym yn chwilio am ddeintyddion â dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y claf, gwybodaeth fanwl a phrofiad o weithio fel deintydd mewn amrywiaeth o leoliadau.
Mae swydd yr Arweinydd Deintyddol Clinigol yn cynnig y cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus ddylanwadu'n uniongyrchol ar y ffordd y caiff gofal deintyddol ei arolygu a'i reoleiddio yng Nghymru.
Bydd yr Arweinydd Deintyddol Clinigol yn chwarae rôl allweddol wrth sicrhau bod methodoleg arolygu a rheoleiddio AGIC yn effeithiol a bod tîm medrus o adolygwyr cymheiriaid deintyddol ar waith.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymgeiswyr a all ddangos eu bod yn awyddus i wella ansawdd a diogelwch deintyddiaeth a ddarperir i gleifion yng Nghymru ac ymrwymiad i wneud hynny.
Dychwelwch eich ffurflen gais ynghyd â'ch CV i: agic.arolygu@llyw.cymru hyd at 17eg Hydref 2025.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag AGIC ar 0300 062 8163.
Dogfennau
-
Arweinydd Deintyddol Clinigol - Canllawiau ar gyfer yr Ymgeisydd , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 73 KBCyhoeddedig:73 KB