Ymunwch â ni – Mae Swyddi Gwag Newydd ar gyfer Adolygwyr Cymheiriaid Bellach ar Agor
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn gwahodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob cwr o Gymru i wneud cais am amrywiaeth o rolau Adolygwyr Cymheiriaid i gefnogi ein gwaith arolygu ac adolygu.

Mae Adolygwyr Cymheiriaid yn chwarae rhan bwysig wrth ein helpu ni i roi sicrwydd annibynnol ar ansawdd, diogelwch, ac effeithiolrwydd gwasanaethau gofal iechyd. Maent yn cyfrannu gwybodaeth arbenigol a phrofiad go iawn at ein timau arolygu, gan ein helpu ni i nodi arferion da, nodi lle mae angen gwneud gwelliannau, a sicrhau canlyniadau gwell i gleifion.
Beth yw Adolygydd Cymheiriaid?
Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n dal i ymarfer ac sy'n ymuno â'n gweithgarwch arolygu ac adolygu ar sail hyblyg yw Adolygwyr Cymheiriaid. Maent yn cyfrannu gwybodaeth arbenigol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol, naill ai wyneb yn wyneb neu o bell, gan ddibynnu ar natur y gwaith. Mae eu cyfraniad yn sicrhau bod ein canfyddiadau yn cael eu llywio gan ymarfer clinigol cyfredol ac yn cyd-fynd â safonau cenedlaethol.
Rydym yn darparu sesiynau sefydlu cynhwysfawr a chyfleoedd o ran datblygiad proffesiynol parhaus i bob Adolygydd Cymheiriaid.
Cyfleoedd presennol
- Adolygydd Cymheiriaid Nyrsys Practis – Manyleb Swydd
- Adolygydd Cymheiriaid Deintyddol – Manyleb Swydd
- Adolygydd Cymheiriaid Nyrsys Plant (Yn cau ar 31 Mawrth) – Manyleb Swydd
- Adolygydd Cymheiriaid Nyrsys Newyddenedigol (Yn cau ar 31 Mawrth) – Manyleb Swydd
- Adolygydd Cymheiriaid Obstetryddion Ymgynghorol (Yn cau ar 31 Mawrth) – Manyleb Swydd
- Adolygydd Cymheiriaid Offthalmolegwyr (Yn cau ar 31 Mawrth) – Manyleb Swydd
- Adolygydd Cymheiriaid Nyrs Anabledd Dysgu Cofrestredig (Dyddiad Cau 31 Mawrth) - Manyleb Swydd
- Adolygydd Cymheiriaid o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (Dyddiad Cau 31 Mawrth) - Manyleb Swydd
- Adolygydd Cymheiriaid Nyrs Iechyd Meddwl Cofrestredig gyda Phrofiad ECT (Dyddiad Cau 31 Mawrth) - Manyleb Swydd
Pam dod yn Adolygydd Cymheiriaid?
- Meithrin gwybodaeth a chael profiad proffesiynol gwerthfawr ar draws amrywiaeth eang o leoliadau gofal iechyd
- Cyfrannu mewn ffordd hyblyg, ochr yn ochr â'ch rôl broffesiynol bresennol
- Mynediad at sesiynau sefydlu, hyfforddiant a chyfleoedd o ran datblygiad proffesiynol parhaus.
Sut i wneud cais
I gael rhagor o wybodaeth am y rolau ac i gyflwyno cais, ewch i: https://www.agic.org.uk/adolygwyr-cymheiriaid
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'n Tîm Cymorth Arolygu yn AGIC.arolygu@llyw.cymru neu ffoniwch 0300 062 8163.