Neidio i'r prif gynnwy

Manyleb: Adolygydd Cymheiriaid Deintyddol

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiath o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mywn nodi meysydd y mae angen eu gwella.

Manylion y swydd wag:

Sefydliad: Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Rôl: Adolygydd Cymheiriaid Deintyddol

Cyflog: £375 y dydd, a threuliau teithio a chynhaliaeth

Hyd: Tair blynedd gyda'r posibilrwydd o estyniad

Diben y swydd:

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn arolygu ansawdd, diogelwch ac effeithiolrwydd cyrff y GIG a darparwyr gofal iechyd annibynnol ledled Cymru, ac yn adrodd arnynt.

Fel Adolygydd Cymheiriaid Deintyddol, byddwch yn cydweithio ag AGIC i gynnal arolygiadau deintyddol mewn practisau deintyddol preifat a phractisau'r GIG ledled Cymru.

Bydd AGIC yn defnyddio eich gwybodaeth a'ch sgiliau i sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar ymarfer cyfredol ac i helpu i dynnu sylw byrddau iechyd a darparwyr gofal iechyd eraill at bryderon ac enghreifftiau o ymarfer rhagorol. Yna, gofynnir i'r darparwr fynd i'r afael ag argymhellion a fydd yn arwain at wasanaeth gwell i gleifion.

Tasgau allweddol:

· Gweithio gydag AGIC gyda chymorth a chyfarwyddyd gan staff AGIC

· Teithio ledled Cymru i arolygu'r amgylchedd ffisegol, polisïau/gweithdrefnau, cyfarpar, ardystiadau, cofnodion cleifion a chofnodion eraill mewn gwasanaethau gofal iechyd

· Cyfweld â deintyddion, aelodau eraill o'r tîm deintyddol a chleifion

· Rheoli amser yn effeithiol er mwyn sicrhau eich bod wedi paratoi'n llawn ar gyfer yr ymweliad arolygu a darllen gwybodaeth cyn yr arolygiad ac adroddiadau arolygu blaenorol

· Gwneud arsylwadau ac argymhellion yn seiliedig ar eich barn glinigol a phroffesiynol eich hun, gan ystyried y rhesymeg glinigol, buddiannau cleifion, a'r broses o roi unrhyw Reoliadau a Safonau perthnasol ar waith

· Ymateb i unrhyw faterion sy'n peri pryder fel y bo'n briodol drwy drafod ag Arolygydd Gofal Iechyd AGIC

· Gwneud cofnod o'ch canfyddiadau yn ystod yr ymweliad gan ddefnyddio'r adnodd(au) arolygu a chyfrannu at y cyfarfod adborth ar ddiwedd yr arolygiad gan ddefnyddio'r dystiolaeth a gasglwyd

· Adolygu adroddiadau arolygu er mwyn sicrhau eu bod yn gywir cyn eu cyhoeddi

· Mynd i unrhyw weithgareddau sefydlu a hyfforddiant y bydd AGIC o'r farn eu bod yn angenrheidiol

· Gweithredu fel llysgennad ar ran AGIC drwy hyrwyddo gwaith yr Arolygiaeth a rhannu arferion gorau

· Cymryd rhan yn y broses o greu a diwygio dogfennaeth methodoleg arolygu (yn ôl y gofyn)

Meini Prawf Penodol i'r Swydd:

Meini prawf hanfodol

· Baglor mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol (BDS/BChD) neu gymhwyster cyfatebol

· Cofrestriad llawn â chyfredol â'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol

· O leiaf bum mlynedd o brofiad o ymarfer parhaus – gan gynnwys ymarfer clinigol cyfredol

· Dangos cydymffurfiaeth â gofynion y Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP), a darparu tystiolaeth gyfredol ar ôl cwblhau a chydymffurfio â phob cwrs gorfodol sy'n rhan o'ch cofrestriad â'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol, gan gynnwys, ymhlith eraill, y Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol), Atal a Rheoli Heintiau, Llywodraethu Gwybodaeth, Diogelu (ar y lefel ofynnol ar gyfer eich swydd bresennol), Codi a Chario, Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid

· Bod yn gyfrifol am eich datblygiad proffesiynol eich hun gan sicrhau eich bod yn cynnal safonau proffesiynol ac yn cwblhau'r hyfforddiant gorfodol diweddaraf

· Profiad o lywodraethu clinigol a dealltwriaeth dda ohono, gan gynnwys rhoi gwybod am ddigwyddiadau a delio â chwynion yn effeithiol

· Cynnal gwybodaeth broffesiynol ac ymwybyddiaeth o ddatblygiadau cyfredol ym maes deintyddiaeth

· Sgiliau drafftio adroddiadau o ansawdd uchel

· Gwybodaeth am safonau proffesiynol a gofynion rheoliadol

· Ymrwymiad amlwg i gydraddoldeb ac amrywiaeth

· Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a gwrando rhagorol

· Ymagwedd broffesiynol iawn sy’n canolbwyntio ar y claf, ynghyd â gwerthoedd cryf o ran gofal diogel, tosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

· Sgiliau arsylwi, asesu a dadansoddi rhagorol

· Y gallu i weithio'n effeithiol ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm

· Y gallu i ddefnyddio amrywiaeth o systemau a dyfeisiau TG yn effeithiol ac yn annibynnol

Meini prawf dymunol

· Profiad o ymarfer deintyddol mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys dealltwriaeth o gytundebau contractiol a'r cydberthnasau sydd ar waith rhwng Practisau Deintyddol a'u bwrdd iechyd perthnasol

· Profiad blaenorol o archwilio ac arolygu

· Gwybodaeth am dawelyddu ymwybodol a mewnosod, a phrofiad o hynny, yn fanteisiol

· Aelodaeth o grwpiau a sefydliadau proffesiynol

· Rhywfaint o ddealltwriaeth o amcanion a blaenoriaethau AGIC

Cyfleoedd datblygu:

Bydd Adolygwyr Cymheiriaid yn meithrin profiad o arolygu ac adolygu a byddant yn gwella eu sgiliau dadansoddi, drafftio, gweithio mewn tîm a chyfathrebu.

Mae gweithio gydag AGIC yn rhoi cyfle i Adolygwyr Cymheiriaid drosglwyddo arferion da i'w meysydd gwaith eu hunain.

Y Gymraeg:

Mae AGIC yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei gweithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Bydd Adolygwyr Cymheiriaid yn destun gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Gwybodaeth Ychwanegol

Patrwm Gwaith

Bydd Adolygwyr Cymheiriaid yn cael cytundeb fframwaith i ddarparu gwasanaethau ar sail hyblyg. O dan y trefniant hwn, nid oes unrhyw rwymedigaeth ar AGIC i gynnig aseiniadau ac nid oes unrhyw rwymedigaeth ar Adolygwyr Cymheiriaid i dderbyn aseiniadau. Bydd AGIC yn cynnig aseiniadau pan fydd angen gwasanaethau (hyd at 1.5 diwrnod ar gyfer pob arolygiad).

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cymorth Arolygiadau AGIC yn AGIC.arolygu@llyw.cymru neu ffoniwch 0300 062 8163.

Sut i wneud cais

Cwblhewch y Ffurflen Gais a'i chyflwyno drwy e-bost i AGIC.arolygu@llyw.cymru.

Os oes angen y ffurflen gais arnoch mewn fformat neu iaith wahanol, cysylltwch â ni:

AGIC.arolygu@llyw.cymru

0300 062 8163

Dogfennau