Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddio gwybodaeth i gefnogi gweithgarwch sy'n seiliedig ar risg

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn defnyddio gwybodaeth i lywio dull sy'n seiliedig ar risg o reoleiddio ac arolygu gofal iechyd yng Nghymru.

Baner teitl ar gyfer y dudalen.

 

Mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i ddeall ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd a nodi lle gall fod risgiau neu bryderon posibl. Rydym yn dod â gwybodaeth o ffynonellau gwahanol ynghyd i greu darlun cynhwysfawr, yn hytrach na ddibynnu ar un darn o wybodaeth.

Mae hyn yn ein helpu i dargedu ein gwaith lle y gall gael yr effaith fwyaf ac i ymateb i risgiau sy'n dod i'r amlwg ym mhob rhan o'r system gofal iechyd.

Sut rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth

Caiff ein gwaith ei lywio gan amrywiaeth eang o wybodaeth, gan gynnwys:

Ffeithlun yn crynhoi cynnwys yr adran.

 

  • profiadau pobl: adborth a phryderon wedi'u rhannu gan gleifion, teuluoedd, gofalwyr a staff
  • ein gwaith rheoleiddio: tystiolaeth a gesglir drwy arolygiadau, ymchwiliadau, adolygiadau a gweithgarwch cofrestru
  • hysbysiadau statudol: gwybodaeth y mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ddarparwyr gofal iechyd ei chyflwyno i ni, gan gynnwys hysbysiadau Rheoliad 30/31 ac IR(ME)R 
  • gwybodaeth gan bartneriaid: gwybodaeth wedi'i rhannu gan sefydliadau fel Archwilio Cymru, Llais, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • data system a pherfformiad: data Llywodraeth Cymru a gwybodaeth genedlaethol arall am wasanaethau gofal iechyd
  • gwybodaeth a gasglwyd dros amser: patrymau a themâu a nodwyd ar draws gwasanaethau, darparwyr a gwahanol rannau o Gymru.

Rydym yn dod â'r ffrydiau gwybodaeth hyn ynghyd i wneud y canlynol:

  • nodi risgiau sy'n dod i'r amlwg neu ddirywiad mewn gwasanaethau
  • deall y risgiau sy'n effeithio ar bobl a all fod yn arbennig o agored i niwed
  • nodi anghydraddoldebau ym maes gofal iechyd
  • nodi gwasanaethau neu feysydd nad oes gennym lawer o wybodaeth amdanynt
  • penderfynu lle y gallai fod angen cynnal arolygiadau, ymchwiliadau neu weithgarwch arall
  • llywio ein gwaith cynllunio, sicrwydd ac uwchgyfeirio.

Mae tystiolaeth o'n harolygiadau a'n hymchwiliadau hefyd yn dod yn rhan o'r wybodaeth sydd ar gael i ni. Gall roi sicrwydd am wasanaeth neu nodi bod angen gwaith dilynol.

Rydym yn cadw map gwybodaeth i gofnodi'r wybodaeth sydd ar gael i ni a sut y caiff ei defnyddio. Rydym yn ei adolygu'n rheolaidd ac yn ei ddiweddaru pan gaiff ffynonellau newydd a pherthnasol o wybodaeth eu nodi.

Sut rydym yn nodi ac yn ymateb i risgiau

Mae ein penderfyniadau o ran ffocws arolygiadau ac ymchwiliadau yn seiliedig ar risgiau a gwybodaeth yn bennaf. Mae rhai gweithgareddau hefyd yn cael eu cynnal yn rheolaidd i'n helpu i fodloni ein gofynion statudol.

Ffeithlun yn crynhoi cynnwys yr adran.

 

Wrth ystyried risg, efallai y byddwn yn gofyn:

  • Pa mor agored i niwed yw'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth?
  • Pa dystiolaeth a gwybodaeth rydym wedi'u casglu dros amser?
  • Beth mae arolygiadau, ymchwiliadau neu adolygiadau blaenorol wedi'i ganfod?
  • A yw sefydliadau partner wedi codi pryderon?
  • A yw cleifion, teuluoedd, staff neu aelodau o'r cyhoedd wedi codi pryderon?
  • Pa flaenoriaethau, safonau a gofynion cenedlaethol sy'n berthnasol i'r gwasanaeth?
  • A oes unrhyw anghydraddoldebau hysbys yn y ffordd y caiff y gwasanaeth ei ddarparu?
  • A yw'r wybodaeth sydd gennym am y gwasanaeth neu'r lleoliad yn gyfyngedig?

Mae ein penderfyniadau yn seiliedig ar yr amrywiaeth o dystiolaeth sydd ar gael ac yn destun craffu a herio drwy drefniadau llywodraethu mewnol AGIC.

Pan fyddwn yn cael gwybodaeth sy'n nodi risg uniongyrchol i ansawdd neu ddiogelwch gofal iechyd, mae gennym brosesau ar waith i ymateb yn gyflym a chymryd camau priodol.

 

Dysgu a gweithio gyda'n gilydd

Mae ein dull sy'n seiliedig ar wybodaeth wedi'i ategu gan brosesau i weithio'n agos gyda sefydliadau ym mhob rhan o'r system.

Rydym yn rhannu, yn derbyn ac yn triongli gwybodaeth gyda phartneriaid yn rheolaidd i sicrhau bod pawb yn deall risgiau ac yn ymateb iddynt yn briodol. 

Ddwywaith y flwyddyn, rydym yn cynnal Uwchgynhadledd Gofal Iechyd sy'n dod â chyrff adolygu a rheoleiddwyr proffesiynol ynghyd, gan gynnwys Archwilio Cymru, Llais, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae'r uwchgynhadledd yn cynnig cyfle i rannu a thrafod gwybodaeth am ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd y GIG yng Nghymru. Mae hyn yn helpu i lywio ein cyfraniad at Drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd GIG Cymru.

Rydym yn ymgysylltu â'n Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid a chyrff cynrychioliadol eraill lle y bo'n briodol i'n helpu i ddeall materion sy'n effeithio ar gleifion, cymunedau a gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru. Mae gennym hefyd Femoranda Cyd-ddealltwriaeth â sefydliadau partner er mwyn helpu i rannu gwybodaeth mewn ffordd briodol. 

Yn dibynnu ar natur y risg, gall ein gwaith gyda phartneriaid arwain at y canlynol:

Ffeithlun yn crynhoi cynnwys yr adran.
  • coordinated or joint activity
  • another organisation taking the lead where it is better placed to respond
  • HIW considering evidence or assurance provided by another organisation
  • concerns being escalated through wider NHS Wales arrangements.

Atgyfnerthu ein dull

Rydym yn parhau i wella'r ffordd y caiff gwybodaeth ei chofnodi, ei rhannu, ei hasesu a'i defnyddio ar draws AGIC. Ein huchelgais yw symud tuag at fodel gwybodaeth sy'n fwy strwythuredig, yn fwy cyson ac yn fwy tryloyw.

Yn y system iechyd yng Nghymru, caiff cryn dipyn o wybodaeth ei chynhyrchu a'i rhannu rhwng sefydliadau. Ein her yw nodi pa wybodaeth sydd fwyaf defnyddiol i'n helpu i ddeall risgiau, targedu ein gweithgarwch a gwella prosesau gwneud penderfyniadau rheoleiddiol. 

Rydym yn defnyddio ein map gwybodaeth i nodi ac adolygu'r wybodaeth sydd ar gael i ni, gan sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar ffynonellau sy'n cynnig cipolwg ystyrlon ar ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Datblygu fframwaith gwybodaeth cliriach a mwy cyson.
  • Ehangu a mireinio'r amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth rydym yn eu defnyddio.
  • Gwella sut y caiff gwybodaeth ei chofnodi, ei rhannu a'i herio drwy ein trefniadau llywodraethu mewnol, gan gynnwys y Grŵp Asesu Risg a Gwybodaeth (RAIG) a'r Pwyllgor Risg ac Uwchgyfeirio (REC).
  • Gwella ein gallu i nodi themâu a materion sy'n dod i'r amlwg ar draws gwasanaethau a ledled Cymru drwy ddadansoddi gwybodaeth ac ymgysylltu â phartneriaid.
  • Ymgorffori dull wedi'i driongli o ystyried gwybodaeth fel rhan o brosesau cynllunio, uwchgyfeirio a sicrwydd, gan gynnwys trefniadau cynllunio'r GIG.

Drwy ddefnyddio amrywiaeth ehangach o wybodaeth, gallwn nodi risgiau sy'n dod i'r amlwg yn well, adnabod patrymau a thueddiadau a thargedu ein gweithgarwch arolygu ac ymchwilio at y mannau lle mae'n debygol o gael yr effaith fwyaf. 

Mae gwybodaeth yn gryfach pan gaiff ei chyfuno o wahanol ffynonellau a'i  phrofi drwy drafodaeth broffesiynol. Er bod data a gwybodaeth yn chwarae rhan bwysig yn ein prosesau gwneud penderfyniadau, mae barn broffesiynol, prosesau craffu mewnol a thrafodaethau â sefydliadau partner yn hanfodol o hyd. Mae profi a herio ein hasesiadau yn helpu i sicrhau bod ein penderfyniadau yn gadarn, yn gymesur ac yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael.

Dylanwadu ar ein canlyniadau

Drwy ein gwaith, mae AGIC yn ceisio dylanwadu ar bedwar canlyniad. Mae'r ymagwedd hon tuag at weithgarwch adolygu, sy'n seiliedig ar risg ac wedi'i harwain gan wybodaeth, yn cefnogi'r canlyniadau hyn mewn nifer o ffyrdd a dangosir hyn yn y tabl isod.

Canlyniadau

Sut mae'r strategaeth hon yn cefnogi'r rhain?

Rhoi sicrwydd annibynnol ar ddiogelwch, ansawdd ac argaeledd gofal iechyd drwy reoleiddio effeithiol a thrwy gyflwyno adroddiadau agored a chlir ar arolygiadau, ac ymchwiliadau

Bydd gennym raglen sy'n seiliedig ar risgiau a gwybodaeth i sicrhau bod ein gweithgarwch yn canolbwyntio ar y mannau lle gall gael yr effaith fwyaf. O ganlyniad, rydym yn debygol o gynnal gwaith yn y meysydd sy'n effeithio ar y bobl fwyaf agored i niwed neu lle mae gennym bryderon am ansawdd gwasanaeth neu lle na chynhaliwyd ymweliad ers cyfnod penodol o amser. 

Bydd adroddiadau o'r arolygiadau hyn yn dod yn rhan o'r wybodaeth sydd ar gael i ni yn y dyfodol. 

Annog a chefnogi gwelliannau ym maes gofal drwy adrodd ar arferion da a meysydd lle mae angen cymryd camau gweithredu a'u rhannu.

Mae ein hymchwiliadau a'n harolygiadau yn profi sefydliadau yn erbyn safonau cyhoeddedig. Gall ein prosesau adrodd tryloyw eu helpu nhw ac eraill i nodi meysydd i'w gwella a rhannu arferion da hefyd.

Mae'r wybodaeth a rennir â sefydliadau partner yn ein helpu i sicrhau bod ffocws ein gweithgarwch yn briodol a'n bod yn cael yr effaith fwyaf ar wella safon gofal. 

Sicrhau bod profiad y claf wrth wraidd ein prosesau arolygu ac ymchwilio.Mae gwybodaeth gan y cyhoedd, cleifion, gofalwyr a staff yn elfennau allweddol i'w hystyried wrth benderfynu ar ein gweithgarwch yn y dyfodol. At hynny, mae ymgysylltu â chleifion a holiaduron yn agwedd allweddol ar ein methodolegau arolygu ac ymchwilio.
Defnyddio ein profiad o ddarparu gwasanaethau i ddylanwadu ar bolisi, safonau ac arfer. Lle byddwn yn nodi themâu o'n rhaglen waith, byddwn yn hysbysu'r rhai sy'n llunio polisïau o'n canfyddiadau. Rydym yn gwneud hynny drwy lythyrau uniongyrchol i Lywodraeth Cymru ac yn agored hefyd drwy gyhoeddi ein cyfres o adroddiadau blynyddol ar fyrddau iechyd a'n hadroddiadau thematig.