Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi rhoi Proses ar gyfer Ymgysylltu â GIG Cymru ar waith i atgyfnerthu sut rydym yn gweithio gyda Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG ledled Cymru. Gwnaethom ddatblygu dogfen ganllaw ar gyfer y sefydliadau, sy'n amlinellu'r model ymgysylltu newydd, ein disgwyliadau, strwythur ymgysylltu, a sut y gall sefydliadau weithio gyda ni i sicrhau gofal diogel ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Y rhesymeg dros newid
Yn dilyn adolygiad o'n model ymgysylltu Rheolwyr Cydberthnasau, gwnaethom nodi anghysondebau gyda'r broses ymgysylltu, goruchwylio, a rhannu gwybodaeth. Mae'r proses newydd yn cyflwyno model yn seiliedig ar dimau a fydd yn sicrhau:
- Cyfathrebu cyson a dibynadwy
- Cydberthnasau cydweithredol cryfach
- Atgyfnerthu gwybodaeth sefydliadol
- Gwaith sicrwydd a chynllunio rhagweithiol ar gyfer ein rhaglen sicrwydd
Disgwyliadau ar gyfer Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG
Mae disgwyl i sefydliadau wneud y canlynol:
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd ymgysylltu strategol a chyffredinol
- Rhannu gwybodaeth amserol a chywir yn dryloyw i gefnogi ein gwaith sicrwydd
- Dangos cydymffurfiaeth â Dyletswydd Ansawdd o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020
- Meithrin diwylliannau dysgu a gwella'n barhaus, a dangos arweinyddiaeth ac atebolrwydd
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid i lywio'r broses o ddylunio a gwella gwasanaethau
- Sicrhau bod staff gofal iechyd yn ymwybodol o awdurdod AGIC i arolygu a chael gafael ar wybodaeth berthnasol yn unol â deddfwriaeth allweddol
Cyfarfodydd ymgysylltu
Caiff cyfarfodydd strwythuredig eu cynnal yn rheolaidd gyda gweithredwyr allweddol, arweinwyr clinigol a rhai aelodau annibynnol o'r Bwrdd. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu llywio gan wybodaeth ac yn canolbwyntio ar y canlynol, heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- Diogelwch cleifion
- Llywodraethu ac arweinyddiaeth
- Ansawdd
- Breguster gwasanaethau
- Cynllunio strategol
Caiff canlyniadau cyfarfodydd eu cofnodi a'u rhannu â rhanddeiliaid perthnasol.
Rhannu gohebiaeth a gwybodaeth
Er mwyn cynnal cysondeb ar draws sefydliadau a diogelwch gwybodaeth gyfrinachol, dim ond at dderbynwyr dynodedig y bydd AGIC yn anfon gohebiaeth sy'n gysylltiedig ag arolygiadau. Mae'r rhain yn cynnwys Prif Weithredwyr, Cadeiryddion, Cyfarwyddwyr Gweithredol clinigol allweddol, a blwch negeseuon e-bost tîm llywodraethu enwebedig. Caiff cyfathrebiadau eraill, fel pryderon neu ymholiadau ad hoc, eu hanfon at unigolion neu dimau priodol lle y bo'n briodol.
Cysylltu ag AGIC
Yn dibynnu ar natur eich ymholiad, dylai sefydliadau GIG Cymru gysylltu â'r tîm AGIC perthnasol a nodwyd yn y ddogfen ganllaw, neu fynd i'n tudalen Cysylltwch â Ni i gael y manylion llawn.