Neidio i'r prif gynnwy

Adolygydd Cymheiriaid ar gyfer Nyrsys Plant - Manyleb Swydd

Mae Adolygwyr Cymheiriaid fel arfer yn ffurfio rhan o dîm amlddisgyblaethol ac mae eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar arferion a phrofiad cyfredol. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gwblhau naill ai'n bersonol neu o bell o bryd i'w gilydd.

Dyddiad Cau: 31 Mawrth

AGIC yw arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd y mae angen eu gwella.

Manylion y swydd wag

Sefydliad: Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Rôl: Adolygydd Cymheiriaid ar gyfer Nyrsys Plant

Cyflog:  £275 y dydd, a threuliau teithio a chynhaliaeth

Hyd: Tair blynedd gyda'r posibilrwydd o estyniad

Diben y swydd

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd y mae angen eu gwella.

Fel Adolygydd Cymheiriaid , byddwch yn cydweithio ag AGIC i gynnal arolygiadau mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol acíwt ledled Cymru.

Bydd AGIC yn defnyddio eich gwybodaeth a'ch sgiliau i sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar ymarfer a phrofiad cyfredol. Mae hyn yn ein helpu i amlygu ymarfer da ac i atgyfnerthu a rhannu Safonau Gofal Iechyd o fewn y GIG a'r Sector Gofal Iechyd Annibynnol er mwyn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd a gwella gwasanaethau i gleifion.

Tasgau allweddol

  • Cydweithio fel rhan o dîm arolygu, gyda chymorth ac arweiniad gan staff AGIC.
  • Teithio ledled Cymru i arolygu gwasanaethau gofal iechyd, gan gynnwys yr amgylchedd ffisegol, polisïau a gweithdrefnau, cyfarpar, ardystiadau, cofnodion cleifion a dogfennau perthnasol eraill. 
  • Cynnal cyfweliadau â staff a chleifion. 
  • Rheoli amser yn effeithiol, gan gynnwys paratoi ar gyfer ymweliadau arolygu drwy adolygu gwybodaeth cyn yr arolygiad ac adroddiadau blaenorol. 
  • Mynd i'r afael â materion sy'n peri pryder yn briodol drwy ymgynghori ag Arolygydd Gofal Iechyd AGIC. 
  • Gwneud arsylwadau ac argymhellion yn seiliedig ar farn glinigol a phroffesiynol, gan ystyried y rhesymeg glinigol, safbwyntiau cleifion, a chydymffurfiaeth â'r rheoliadau a'r safonau perthnasol. 
  • Cadw cofnodion cywir a chynhwysfawr o'ch canfyddiadau gan ddefnyddio adnoddau arolygu, a chyfrannu at gyfarfodydd adborth ar ddiwedd arolygiadau. 
  • Adolygu a rhoi sylwadau ar adroddiadau arolygu drafft cyn iddynt gael eu cyhoeddi i sicrhau cywirdeb. 
  • Cynnal ymweliadau arolygu dilynol byrrach â phwyslais penodol yn ôl yr angen. 
  • Cyfrannu at y broses o ddatblygu a diwygio dogfennaeth methodoleg arolygu pan fo angen. 
  • Dangos parch tuag at amrywiaeth a chynnal hawliau ac urddas y staff, y cleifion ac eraill. 
  • Mynychu hyfforddiant sefydlu ac unrhyw hyfforddiant y cred AGIC ei fod yn angenrheidiol. 
  • Gweithredu fel llysgennad ar ran AGIC drwy hyrwyddo gwaith yr Arolygiaeth a rhannu arferion gorau.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

Meini Prawf Hanfodol 

  • Cofrestriad cyfredol dilys â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
  • Tystiolaeth gyfredol eich bod wedi cwblhau holl gyrsiau gorfodol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a'ch bod yn cydymffurfio â nhw, gan gynnwys (ymhlith eraill): Atal a Rheoli Heintiau, Llywodraethu Gwybodaeth, Diogelu (ar y lefel briodol ar gyfer eich rôl), Codi a Chario a'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid.
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).
  • Profiad a dealltwriaeth gadarn o lywodraethu clinigol, gan gynnwys gweithredu a monitro safonau clinigol a phroffesiynol yn effeithiol.
  • Profiad o brosesau rheoli risg, gan gynnwys rhoi gwybod am ddigwyddiadau ac ymdrin â chwynion. 
  • Sgiliau ysgrifennu adroddiadau cadarn.
  • Ymrwymiad amlwg i gydraddoldeb ac amrywiaeth.
  • Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a gwrando rhagorol.
  • Ymagwedd broffesiynol iawn sy’n canolbwyntio ar y claf, wedi'i hategu gan werthoedd gofal diogel, tosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
  • Sgiliau arsylwi, asesu a dadansoddi cadarn. 
  • Y gallu i weithio'n effeithiol yn annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Yn gallu defnyddio amrywiaeth o systemau a dyfeisiau TG yn annibynnol. 

 

Meini Prawf Dymunol

  • Profiad o weithio gydag unigolion agored i niwed.
  • Cyfraniad blaenorol at brosesau arolygu, archwilio neu sicrhau ansawdd.
  • Gwybodaeth am amcanion a blaenoriaethau AGIC a dealltwriaeth ohonynt.

Cyfleoedd datblygu

Bydd Adolygwyr Cymheiriaid yn meithrin profiad gwerthfawr o brosesau arolygu ac adolygu, wrth iddynt wella eu sgiliau dadansoddi, drafftio, gweithio mewn tîm a chyfathrebu.

Mae gweithio gydag AGIC yn cynnig cyfle i Adolygwyr Cymheiriaid drosglwyddo'r arferion gorau i'w sefydliadau eu hunain.

Er mwyn cefnogi'r rôl hon, bydd Adolygwyr Cymheiriaid yn cael hyfforddiant sefydlu, diwrnodau hyfforddiant penodedig a sesiynau sgwrsio rheolaidd, a fydd oll yn cyfrannu at eu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).

Y Gymraeg

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cydnabod gwerth datblygu ac atgyfnerthu ei gweithlu dwyieithog. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr a all ddangos eu bod yn gallu gweithio'n hyderus yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Bydd Adolygwyr Cymheiriaid yn destun gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). 

Gwybodaeth Ychwanegol

Patrwm Gwaith

Bydd Adolygwyr Cymheiriaid yn cael eu cyflogi o dan drefniant fframwaith, sy'n caniatáu i wasanaethau gael eu darparu mewn ffordd hyblyg, gan gynnwys gweithio y tu allan i oriau. O dan y trefniant hwn, nid oes unrhyw rwymedigaeth ar AGIC i gynnig aseiniadau ac nid oes unrhyw rwymedigaeth ar Adolygwyr Cymheiriaid i'w derbyn. Caiff aseiniadau eu cynnig gan AGIC pan fydd angen y gwasanaethau hynny.

Sut i wneud cais

Cwblhewch y ffurflen gais sydd ar y wefan a'i chyflwyno drwy e-bost i AGIC.arolygu@llyw.cymru

Os oes angen y ffurflen gais arnoch mewn fformat neu iaith wahanol, cysylltwch â ni:

AGIC.arolygu@llyw.cymru 

0300 062 8163