Uwchgynhadledd Gofal Iechyd yn tynnu sylw at bryderon a blaenoriaethau a rennir ym mhob rhan o GIG Cymru
Mae'r Uwchgynhadledd Gofal Iechyd yn dod â sefydliadau o bob rhan o system gofal iechyd Cymru ynghyd, gan gynnwys arolygiaethau, archwilwyr, cyrff gwella a sefydliadau cynrychioli cleifion, i rannu gwybodaeth a nodi materion sy'n dod i'r amlwg sy'n effeithio ar wasanaethau gofal iechyd. Gan ddod â safbwyntiau gwahanol o bob rhan o'r system ynghyd, mae'r Uwchgynhadledd yn helpu i feithrin dealltwriaeth a rennir o'r heriau a'r cyfleoedd y mae GIG Cymru yn eu hwynebu, gan gefnogi dysgu ar y cyd a llywio ymdrechion gwella.
Nododd yr Uwchgynhadledd Gofal Iechyd ddiweddaraf, a gynhaliwyd ar 12 a 19 Mai 2026, nifer o heriau a blaenoriaethau cyffredin y mae gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru yn eu hwynebu. Roedd y trafodaethau eleni yn seiliedig ar ddull thematig newydd, gan ganolbwyntio ar faterion system gyfan yn hytrach na diweddariadau gan sefydliadau unigol. Gwnaeth aelodau gydnabod y gwaith sylweddol sy'n mynd rhagddo ym mhob rhan o GIG Cymru, gan dynnu sylw at effaith gynyddol pwysau sefydliadol ac ariannol a'r pwysau ar y gweithlu ar wasanaethau.
Themâu allweddol
Nodwyd nifer o themâu yn ystod trafodaethau. Roedd y rhain yn cynnwys pwysau ar y gweithlu a'r effaith y maent yn ei chael ar wasanaethau gofal iechyd, yr angen i drosi gwersi a ddysgwyd o arolygiadau, adolygiadau a gweithgarwch sicrwydd yn welliannau parhaus, a lleihau amrywiadau o ran mynediad at ofal a phrofiad y claf ledled Cymru.
Tynnodd aelodau sylw hefyd at bwysigrwydd trefniadau cydweithio cryfach rhwng gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedol i wella teithiau a chanlyniadau cleifion. Ochr yn ochr â hyn, roedd trafodaethau yn canolbwyntio ar yr her o gydbwyso pwysau sefydliadol ac ariannol uniongyrchol â'r newidiadau tymor hwy sydd eu hangen i wneud gwelliannau cynaliadwy ym mhob rhan o GIG Cymru.
Meysydd ffocws
Gofal brys a gofal mewn argyfwng
Tynnodd aelodau sylw at bwysigrwydd lleihau nifer y bobl sy'n mynychu adrannau achosion brys yn ddiangen drwy ymyrryd yn gynt, gwasanaethau cymunedol cryfach a gwell mynediad at opsiynau amgen. Codwyd pryderon hefyd am effaith pwysau'r system ar ddiogelwch, urddas a phrofiad cleifion, yn ogystal â heriau parhaus o ran llif cleifion a llwybrau rhyddhau.
Gofal a gynlluniwyd
Mae amseroedd aros hir a galw cynyddol yn parhau i fod yn heriau sylweddol. Pwysleisiodd aelodau bod angen rheoli rhestrau aros fel llwybrau gweithredol i ofal, gan sicrhau bod cleifion yn cael cymorth, eu bod yn cael eu monitro a bod staff yn cyfathrebu â nhw yn briodol wrth aros am driniaeth.
Y Gweithlu
Mae'r pwysau ar y gweithlu yn parhau i effeithio ar ansawdd gwasanaethau, diogelwch cleifion a gwydnwch sefydliadol. Nodwyd bod heriau o ran recriwtio a chadw staff, llesiant staff, dibyniaeth ar staff dros dro a bylchau mewn sgiliau yn bryderon parhaus ym mhob rhan o GIG Cymru.
Diwylliant, arweinyddiaeth a chodi llais
Gwnaeth aelodau gydnabod pwysigrwydd arweinyddiaeth gadarn a diwylliannau sefydliadol cadarn wrth gefnogi gofal diogel ac effeithiol. Er y nodwyd enghreifftiau o arferion da, mae pryderon o hyd am sicrhau bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a bod y materion a godir yn arwain at welliant gweladwy.
Gwasanaethau iechyd meddwl
Tynnwyd sylw at bwysau parhaus mewn gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys heriau o ran y gweithlu, llwybrau anghyson, pwysau ar wasanaethau cymunedol a phryderon am seilwaith sy'n heneiddio. Trafododd yr aelodau y paratoadau ar gyfer rhoi'r Ddeddf Iechyd Meddwl newydd ar waith hefyd.
Gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol
Trafodwyd y cynnydd yn dilyn Asesiad Sicrwydd Cymru Gyfan o Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol yn ystod yr Uwchgynhadledd. Gwnaeth aelodau groesawu'r gwaith gwella helaeth sy'n mynd rhagddo ond gwnaethant bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod argymhellion yn arwain at welliannau cynaliadwy i fenywod, babanod a theuluoedd.
Llywodraethu a dysgu
Er bod y trefniadau sicrwydd a llywodraethu wedi'u sefydlu'n dda ar y cyfan, nododd aelodau bod angen atgyfnerthu systemau dysgu a dangos sut mae adborth gan gleifion, staff a digwyddiadau yn arwain at welliannau mesuradwy.
Ystadau a seilwaith
Nodwyd adeiladau sy'n heneiddio, ôl-groniad o waith cynnal a chadw a heriau amgylcheddol fel risgiau cynyddol i ofal diogel a chynaliadwy, yn benodol mewn gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu.
Pwysau ariannol
Tynnodd aelodau sylw at yr heriau ariannol sylweddol y mae GIG Cymru yn eu hwynebu a'r effaith y gallant ei chael ar y broses o ddarparu gwasanaethau, gweithgarwch gwella a chynaliadwyedd hirdymor.
Mynediad at ofal sylfaenol a chyfathrebu
Mae mynediad at wasanaethau meddygon teulu a deintyddol, symud drwy lwybrau gofal iechyd a chyfathrebu â chleifion yn parhau i fod yn feysydd sy'n peri pryder. Pwysleisiodd aelodau bod angen cael gwybodaeth gliriach a dull mwy cyson ledled Cymru.
Edrych i'r dyfodol
Mae'r themâu a drafodwyd yn yr Uwchgynhadledd Gofal Iechyd yn adlewyrchu'r materion a nodwyd gan sefydliadau partner drwy eu gweithgareddau sicrwydd, rheoleiddio, arolygu a gwella. Mae rhannu'r wybodaeth hon yn helpu i gefnogi dysgu ar draws y system ac yn cyfrannu at ddealltwriaeth ehangach o'r cyfleoedd sydd ar gael i wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru a'r heriau y maent yn eu hwynebu.
Bydd yr Uwchgynhadledd yn parhau i ddod â sefydliadau ynghyd i rannu gwybodaeth a llywio trafodaethau yn y dyfodol gyda'r nod o wella ansawdd, diogelwch a chynaliadwyedd gwasanaethau gofal iechyd i bobl yng Nghymru.