Neidio i'r prif gynnwy

Sioe Iechyd Meddwl a Llesiant 2026: Annog sgyrsiau agored am iechyd meddwl - codi ymwybyddiaeth a rhannu profiadau go iawn

Ddydd Gwener, 15 Mai 2026, roedd yn bleser gennym gymryd rhan yn Sioe Iechyd Meddwl a Llesiant 2026 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Roedd y sioe yn ddigwyddiad undydd ysgogol ac ysbrydoledig, a oedd yn dod ag arddangoswyr, siaradwyr ac arbenigwyr ynghyd i hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol. Gyda rhaglen lawn o seminarau arloesol, cyngor ymarferol, gweithgareddau llesiant ac arddangosfa helaeth, roedd yn gyfle gwerthfawr i archwilio'r datblygiadau diweddaraf a'r arferion gorau o bob rhan o'r sector.

Roedd y sesiynau yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys llesiant yn y gweithle, hunanofal, cwsg, y menopos, atal hunanladdiad, profedigaeth, teithiau adfer, ac adnoddau ymarferol i reoli iechyd meddwl.

Tynnodd y digwyddiad sylw hefyd at yr heriau, y llwyddiannau a'r datblygiadau arloesol sy'n gysylltiedig â chefnogi unigolion â salwch meddwl, gan rannu dulliau adfer a chymorth parhaus.

Yn bwysig, roedd y diwrnod yn gyfle gwerthfawr i ni gysylltu a rhwydweithio â rhai o aelodau ein Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid, gan gryfhau cydberthnasau a pharhau â sgyrsiau pwysig ynghylch gweithio tuag at nod cyffredin, sef ysgogi gwelliannau mewn gofal iechyd.

Roeddem yn ddiolchgar cael bod yn rhan o'r digwyddiad a chael y cyfle i gysylltu â chynifer o bobl wyneb yn wyneb. Diolch i bawb a alwodd heibio ein stondin i sgwrsio, rhannu eich straeon, a dangos eich cefnogaeth - roedd yn bleser cwrdd â chi i gyd.

Mae gofal iechyd meddwl o ansawdd yn bwysig i bawb!

The Mental Health and Wellbeing Show and HIW colleagues on the stand

Lluniau gan Paul Fears Photography