Mae AGIC yn falch cael cyfle i ddychwelyd i'r Sioe Iechyd Meddwl a Llesiant yn 2026, a gynhelir ddydd Gwener 15 Mai 2026 yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Rydym yn edrych ymlaen at fod yn un o'r arddangoswyr unwaith eto ac at gysylltu â gweithwyr proffesiynol a sefydliadau ar draws y sectorau iechyd meddwl, llesiant a gofal iechyd.
Mae'r sioe yn achlysur allweddol i unrhyw un sy'n gweithio ym maes iechyd meddwl a llesiant, neu sydd â diddordeb yn y maes. Mae'n cynnig diwrnod llawn o seminarau arloesol, cyngor arbenigol, gweithgareddau llesiant ac arddangosfa yn cynnwys elusennau, sefydliadau a busnesau blaenllaw.
Yn yr arddangosfa, byddwn yn rhannu gwybodaeth o'n harolygiadau, yn tynnu sylw at rôl AGIC wrth gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl diogel ac o ansawdd uchel, ac ynn ymgysylltu'n uniongyrchol â'r bobl sy'n mynychu. P'un a ydych yn aelod o'r cyhoedd neu'n gweithio ym maes iechyd meddwl a llesiant, byddem wrth ein bodd yn siarad â chi - dewch i'n gweld ar ein stondin.
Rydym yn edrych ymlaen at ddiwrnod arall ysbrydoledig a chyffrous yn y digwyddiad pwysig hwn.