Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau Cyffredin

Dewch o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin am Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), gan gynnwys yr hyn rydym yn ei wneud, sut rydym yn arolygu ac yn rheoleiddio gwasanaethau gofal iechyd, a sut rydym yn ymateb i bryderon. Gallwch hefyd gael gwybod sut i rannu adborth a chael mynediad at ein hadroddiadau arolygu.

Cwestiynau Cyffredin

Beth mae AGIC yn ei wneud?

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd a'r arolygiaeth ar gyfer gwasanaethau'r GIG yng Nghymru. Ein rôl yw gwirio bod gofal iechyd yn ddiogel, yn effeithiol ac yn diwallu anghenion pobl a chymunedau.

Dysgwch fwy am yr hyn rydym yn ei wneud

A yw AGIC yn rheoleiddio gwasanaethau'r GIG?

Nac ydy. 

Mae AGIC yn arolygu gwasanaethau gofal iechyd y GIG yng Nghymru ond mae'n rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol. Drwy arolygiadau, adolygiadau a gwaith sicrwydd arall, rydym yn asesu ansawdd a diogelwch gwasanaethau'r GIG ac yn adrodd ar ein canfyddiadau.

Dysgwch fwy am y ffordd rydym yn arolygu gofal iechyd

A all AGIC arolygu gwasanaethau gofal iechyd heb rybudd?

Gall. 

Mae AGIC yn cynnal arolygiadau lle rhoddwyd rhybudd ac arolygiadau dirybudd. Mae arolygiadau dirybudd yn ein galluogi i weld gwasanaethau'n gweithredu fel y byddent yn ei wneud fel arfer ac yn ein helpu i asesu ansawdd a diogelwch y gofal a ddarperir.

Dysgwch fwy am y ffordd rydym yn arolygu gofal iechyd

Ai dim ond arolygu ysbytai y mae AGIC?

Nage. 

Mae gwaith AGIC yn cwmpasu amrywiaeth o wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau'r GIG a meddygon teulu yn ogystal â darparwyr gofal iechyd annibynnol fel practisau deintyddol preifat, ysbytai annibynnol, clinigau ac asiantaethau meddygol.

Dysgwch fwy am y gwasanaethau gofal iechyd rydym yn eu harolygu a'u rheoleiddio

A oes angen i bob gwasanaeth gofal iechyd yng Nghymru gofrestru ag AGIC?

Nac oes. 

Mae AGIC yn rheoleiddio gwasanaethau gofal iechyd annibynnol yng Nghymru, gan gynnwys practisau deintyddol preifat, ysbytai annibynnol, clinigau annibynnol ac asiantaethau meddygol annibynnol. Rhaid i'r gwasanaethau hyn gofrestru ag AGIC cyn y gallant weithredu. 

Dysgwch fwy am bwy sydd angen cofrestru â ni 

Sut mae AGIC yn penderfynu ble a phryd i arolygu?

Mae AGIC yn defnyddio gwybodaeth i lywio dull sy'n seiliedig ar risg o reoleiddio ac arolygu gofal iechyd yng Nghymru.

Mae'r dull hwn yn sicrhau bod ein gwaith yn cael ei dargedu lle y caiff yr effaith fwyaf ar ddiogelwch, ansawdd a phrofiad gofal, a'n bod yn ymatebol i risgiau sy'n dod i'r amlwg ar draws y system gofal iechyd.

Dysgwch fwy am sut rydym yn defnyddio gwybodaeth i gefnogi gweithgarwch sy'n seiliedig ar risgiau

A all unrhyw un ddweud wrth AGIC am bryderon ynghylch gwasanaethau gofal iechyd?

Gall.

Rydym yn croesawu adborth gan gleifion, perthnasau, gofalwyr a staff gofal iechyd. Mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i greu darlun o ansawdd a diogelwch gofal iechyd ledled Cymru a gall lywio ein gwaith arolygu a sicrwydd.

Dysgwch fwy am roi adborth ar wasanaeth gofal iechyd

A yw AGIC yn ymchwilio i gwynion unigol am wasanaethau gofal iechyd?

Rôl AGIC yw cadarnhau bod gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru yn cyrraedd y safonau ansawdd a diogelwch gofynnol. Fel arfer, nid ydym yn ymchwilio i gwynion unigol am ofal neu driniaeth claf, ymddygiad proffesiynol, newidiadau i wasanaeth na materion sy'n ddarostyngedig i achosion cyfreithiol.

Fodd bynnag, mae'r wybodaeth y bydd pobl yn ei rhannu â ni yn bwysig. Rydym yn defnyddio adborth gan gleifion, perthnasau, gofalwyr a staff, ynghyd â gwybodaeth arall, i helpu i nodi risgiau a llywio ein gwaith arolygu a sicrwydd.

Dysgwch fwy am roi adborth ar wasanaeth gofal iechyd
 

A yw fy adborth yn gwneud gwahaniaeth?

Ydy. 

Mae pob pryder a rennir ag AGIC yn helpu i greu darlun o ansawdd a diogelwch gofal iechyd ledled Cymru. Rydym yn defnyddio adborth gan gleifion, perthnasau, gofalwyr a staff i lywio ein gwaith sicrwydd sy'n seiliedig ar risgiau. Pan fo patrymau o bryder yn dod i'r amlwg, gall hyn arwain at arolygiadau, adolygiadau neu gamau gweithredu eraill.

Dysgwch fwy am sut mae ein hadborth yn helpu i lywio ein gwaith

Pam y mae AGIC yn cyhoeddi adroddiadau arolygu?

Mae AGIC yn cyhoeddi adroddiadau i rannu ei chanfyddiadau, i dynnu sylw at arferion da ac i nodi meysydd lle mae angen gwella gwasanaethau gofal iechyd. 

Dysgwch fwy neu chwiliwch am adroddiad 

Ai dim ond pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le y bydd AGIC yn llunio adroddiad?

Nage. 

Mae AGIC yn tynnu sylw at feysydd lle mae angen gwella ond mae hefyd yn cydnabod ac yn rhannu enghreifftiau o arferion da a welir yn ystod arolygiadau ac adolygiadau. 

Dysgwch fwy am ein hadroddiadau a'n canfyddiadau

Sut y gallaf ddysgu mwy am y gwasanaethau gofal iechyd y mae AGIC wedi'u harolygu?

Mae AGIC yn cyhoeddi adroddiadau arolygu ar-lein fel y gall aelodau o'r cyhoedd, darparwyr gofal iechyd ac eraill weld ein canfyddiadau. 

Chwiliwch drwy ein hadroddiadau arolygu 

A all AGIC gymryd camau gorfodi yn erbyn darparwyr gofal iechyd annibynnol?

Gall. 

AGIC yw rheoleiddiwr gwasanaethau gofal iechyd annibynnol yng Nghymru. Pan fo pryderon difrifol wedi'u nodi, gallwn gymryd camau rheoleiddiol gan ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol. Gall hyn gynnwys gosod amodau ar gofrestriad, diddymu cofrestriad neu gymryd cam gorfodi arall i amddiffyn pobl sy'n cael gofal.

Dysgwch fwy am y ffordd rydym yn rheoleiddio gwasanaethau gofal iechyd annibynnol

A yw AGIC yn gweithredu pan fydd yn gweld pryderon difrifol yng ngwasanaethau'r GIG?

Ydy.

Pan fydd AGIC yn nodi pryderon difrifol am ansawdd neu ddiogelwch gwasanaethau'r GIG, gallwn gynyddu ein lefel craffu drwy ein proses Gwasanaeth sy'n Peri Pryder.

Gallwn hefyd nodi bod gwasanaeth yn Wasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol, gan helpu i sicrhau bod materion yn cael sylw yn gyflym a bod cynnydd yn cael ei fonitro'n agos.

Dysgwch fwy am Wasanaethau sydd Angen eu Gwella'n Sylweddol 

A yw AGIC yn annibynnol?

Ydy.

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd a'r arolygiaeth ar gyfer gwasanaethau'r GIG yng Nghymru. 

Rydym yn arolygiaeth sy'n gweithredu'n annibynnol o fewn Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu, er bod ein staff yn weision sifil a gyflogir gan y llywodraeth, mai ni sy'n penderfynu ar ein rhaglen waith a ble, pryd a sut y byddwn yn ei rhoi ar waith.

Rydym hefyd yn annibynnol ar y gwasanaethau gofal iechyd yr ydym yn eu harolygu, eu hadolygu a'u rheoleiddio. Mae hyn yn golygu ein bod yn llunio barn wrthrychol ar sail tystiolaeth am ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd ac yn cyhoeddi ein canfyddiadau'n agored. 

Dysgwch fwy am bwy ydym ni a'r hyn rydym yn ei wneud

A yw AGIC yn gweithio gyda sefydliadau eraill?

Ydy. 

Mae AGIC yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau a phartneriaid ledled Cymru, gan gynnwys darparwyr gofal iechyd, rheoleiddwyr, arolygiaethau a chyrff cyhoeddus eraill, i rannu gwybodaeth, nodi risgiau a chefnogi gwelliannau mewn gwasanaethau gofal iechyd.

Dysgwch fwy am ein gwaith a'n partneriaethau