Ni yw rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd ac arolygiaeth gwasanaethau'r GIG yng Nghymru. Ein rôl ni yw gwirio bod gofal iechyd yn ddiogel, yn effeithiol, ac yn diwallu anghenion pobl a chymunedau.
Arweinir Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gan y Prif Weithredwr, Alun Jones. Caiff ei gefnogi gan Rhys Jones, Cyfarwyddwr Sicrwydd ac Abubakar Askira, Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu.
Mae gennym 91 o aelodau o staff sydd wedi'u lleoli ar draws swyddfeydd yng Nghymru. Mae ein prif swyddfa ym Merthyr Tudful. Rydym hefyd yn cael ein cefnogi gan adolygwyr cymheiriaid ac adolygwyr profiad y claf, sy'n ein helpu i arolygu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn ddiogel i'r bobl sy'n eu defnyddio.
Rydym yn arolygiaeth sy'n weithredol annibynnol o fewn Llywodraeth Cymru. Golyga hyn, er bod ein staff yn weision sifil a gyflogir gan y llywodraeth, ni sy'n penderfynu ar ein rhaglen waith a lle, pryd a sut y byddwn yn ei chyflawni.