
Manylion y swydd wag:
| Sefydliad | Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru |
| Rôl | Arweinydd Prosiect - Datblygu Methodoleg Mamolaeth a Newyddenedigol |
| Hyd | Secondiad naw mis |
| Patrwm gwaith | Llawn amser (croesewir ceisiadau gan bobl sy'n gweithio'n rhan amser, fel rhan o drefniant rhannu swydd neu sy'n gweithio'n llawn amser) |
| Gradd | Uwch-swyddog Gweithredol (Cyfwerth â Band 7 y GIG) |
| Lleoliad | Cymru Gyfan (Gweithio hybrid Ystyr Cymru Gyfan yw bod y lleoliad yn hyblyg, gan ddibynnu ar anghenion y busnes. Ceir rhestr o swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru/swyddfeydd-llywodraeth-cymru |
Diben y swydd
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r safonau, y polisïau, y canllawiau a'r rheoliadau gofynnol. Ein nod yw ysgogi gwelliant a diogelu ansawdd gofal.
Rydym yn cynnig cyfle am secondiad cyffrous i arweinydd prosiect dynamig a phrofiadol - er mwyn rheoli'r broses o ddylunio a gweithredu methodoleg arolygu a rhoi sicrwydd newydd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.
Y Rôl
Bydd y prosiect hwn ar waith am gyfnod penodol, er mwyn datblygu dull arolygu penodedig ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol. Mae'r gwaith yn ystyried y cylch arolygu cyfan o gynllunio'r gwaith maes, datblygu llinellau ymholi allweddol, llyfrau gwaith i gofnodi tystiolaeth ac adrodd ar y canfyddiadau.
Nid proses o ddiweddaru neu ddiwygio adnoddau methodoleg presennol AGIC yw'r broses hon, ond proses o ailddylunio o'r bôn i'r brig, wedi'i llywio gan bolisi cenedlaethol, safonau clinigol, risgiau i ddiogelwch cleifion a chan ystyried profiadau menywod, rhieni a'u teuluoedd. Bydd hefyd yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr Asesiad Sicrwydd Mamolaeth a Newyddenedigol Cenedlaethol cyfredol.
Bydd y secondiad yn darparu gallu penodedig o fewn swyddogaeth brysur i arwain y prosiect pwysig hwn. Bydd y gwaith yn arwain y ffordd o ran creu model posibl ar gyfer arolygu gwasanaethau'r GIG yn y dyfodol.
Bydd deiliad y swydd yn adrodd i'r Pennaeth Partneriaethau, Gwybodaeth a Methodoleg a bydd yn atebol i Fwrdd Prosiect sy'n cynnwys uwch-aelodau o staff AGIC, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Sicrwydd, Pennaeth Sicrwydd y GIG a chynrychiolwyr o'r tîm Methodoleg a'r tîm Clinigol. Y Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu yw Noddwr y Prosiect.
Mae gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ymhlith y meysydd gofal iechyd mwyaf cymhleth a risg uchel. Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i lywio'r ffordd y mae AGIC yn arolygu'r gwasanaethau hyn ac yn rhoi sicrwydd yn eu cylch.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Arwain y broses o ddatblygu methodoleg arolygu newydd ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol – gan lywio dull gweithredu AGIC mewn perthynas â rhoi sicrwydd ynghylch y meysydd clinigol cymhleth hyn.
- Rhoi dull rheoli prosiect effeithiol ar waith er mwyn sicrhau y caiff y fethodoleg ei chyflwyno o fewn y terfynau amser y cytunwyd arnynt.
- Llunio panel cynghori ar gyfer y gwaith, a fydd yn debygol o gynnwys uwch-glinigwyr o wasanaethau mamolaeth a gwasanaethau newyddenedigol.
- Triongli gwybodaeth a chyngor gan rwydweithiau clinigol, Llywodraeth Cymru, adolygwyr cymheiriaid clinigol, a rhanddeiliaid eraill er mwyn llywio'r broses ddylunio.
- Sicrhau bod y fethodoleg yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gyson â'r Colegau Brenhinol, polisi cenedlaethol, safonau clinigol a chanllawiau proffesiynol.
- Cydweithio'n agos ag adolygwyr cymheiriaid clinigol i lywio'r broses o ddatblygu'r fethodoleg.
Meini Prawf Penodol i'r Swydd
Meini Prawf Hanfodol
- Profiad o lywodraethu clinigol, yn enwedig ym maes mamolaeth, newyddenedigol neu feysydd cysylltiedig.
- Dealltwriaeth gryf o lwybrau gofal mamolaeth a newyddenedigol, gan gynnwys y cymhlethdodau a'r risgiau cysylltiedig.
- Ymwybyddiaeth o bolisïau gofal iechyd perthnasol yng Nghymru, fel y Datganiad Ansawdd Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol.
- Gallu amlwg i ymgysylltu a chyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys gweithwyr clinigol proffesiynol, arweinwyr polisi a thimau mewnol.
- Profiad o ddatblygu neu gymhwyso methodolegau sicrwydd mewn lleoliad gofal iechyd neu leoliad rheoleiddio.
- Sgiliau arsylwi, asesu a dadansoddi ardderchog, gyda'r gallu i ddehongli gwybodaeth gymhleth a'i throsi i greu adnoddau arolygu ymarferol.
Meini Prawf Dymunol
- Profiad amlwg o reoli prosiectau, gan gynnwys cynllunio, cyflawni a rheoli risg mewn cyd-destun gofal iechyd neu sector cyhoeddus.
Cyfleoedd datblygu
Cyfle i chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu dull sicrwydd AGIC ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru. Bydd yn darparu profiad o ymgysylltu ag amrywiaeth o dimau ym mhob rhan o AGIC, gyda ffocws ar y gangen Partneriaethau, Gwybodaeth a Methodoleg.
Yr Iaith Gymraeg
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon.
Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Bydd y swydd hon yn destun gwiriad datgeliad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Gwybodaeth Ychwanegol
Efallai y bydd angen teithio ledled Cymru
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Richard Hayward - richard.hayward@llyw.cymru
Sut i wneud cais
Os ydych yn awyddus i wella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, byddem yn eich annog i wneud cais ar gyfer y cyfle unigryw hwn i gael effaith sylweddol yng Nghymru. Dylech gyflwyno eich datganiad o ddiddordeb yn nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf penodol i'r swydd drwy e-bost i richard.hayward@llyw.cymru (Pennaeth Partneriaethau, Gwybodaeth a Methodoleg) erbyn dydd Llun 8 Rhagfyr 2025.