Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad o Ddiogelwch, Preifatrwydd, Urddas a Phrofiad Cleifion wrth Aros mewn Ambiwlansys pan fydd Oedi wrth Drosglwyddo Gofal

Profiadau cleifion â chriwiau ambiwlans yn gadarnhaol, ond oedi wrth drosglwyddo gofal a phrosesau amrywiol yn rhwystro’r gwaith o roi gofal ymatebol, diogel ac urddasol.

Heddiw [7 Hydref] cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ganfyddiadau'r Adolygiad o Ddiogelwch, Preifatrwydd, Urddas a Phrofiad Cleifion wrth Aros mewn Ambiwlansys pan fydd Oedi wrth Drosglwyddo Gofal’.

Daeth ein hadolygiad i'r casgliad bod oedi hir wrth drosglwyddo gofal yn rheolaidd y tu allan i adrannau achosion brys ledled Cymru. Mae'n amlwg bod yr oedi hwn, yn ogystal â'r ffaith bod prosesau yn amrywio rhwng byrddau iechyd ac y tu mewn iddynt, yn cael effaith niweidiol ar allu'r system gofal iechyd i roi gofal ymatebol, diogel, effeithiol ac urddasol i gleifion. Serch hyn, roedd y cleifion yn gadarnhaol yn gyffredinol am eu profiadau â chriwiau ambiwlans, yn enwedig o ran eu caredigrwydd, a'r ffordd roeddent yn cyfathrebu ac yn rheoli sefyllfaoedd.

Er bod disgwyliadau a chanllawiau clir i GIG Cymru eu dilyn, yn ogystal ag awydd clir i ddilyn y canllawiau hyn, mae heriau sylweddol sy'n rhwystro ymdrechion i wneud hyn yn gyson. Er bod prosesau trosglwyddo gofal yn debyg mewn adrannau achosion brys ledled Cymru at ei gilydd, gwelsom nifer o enghreifftiau o'r prosesau hyn yn cael eu haddasu am amrywiaeth o resymau gan gynnwys cynllun adrannau, gwahaniaethau o ran rolau staff a phrinder staff. Gwelsom anghysondebau o ddydd i ddydd yn yr un adran, ac weithiau rhwng clinigwyr a staff yr adran achosion brys, yn ogystal â diffyg eglurder ymhlith Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) a staff yr adran achosion brys ynghylch pwy sy'n gyfrifol am glaf cyn iddo gael ei drosglwyddo i'r adran. Gall anghysondebau o'r fath beri risgiau, a chael effaith niweidiol ar ofal a diogelwch cleifion, ac felly mae angen talu sylw iddo.

Gwelsom fod rolau newydd wedi cael eu cyflwyno gan rai byrddau iechyd gyda'r nod o wella prosesau trosglwyddo gofal. Fodd bynnag, nid yw'r rolau hyn ar waith ym mhob adran achosion brys, a chredwn y dylai pob bwrdd iechyd ystyried buddiannau posibl y rolau hyn.

Mae cryn dipyn o waith ar y gweill yn GIG Cymru i fynd i'r afael â'r materion hyn. Fodd bynnag, mae'n glir bod angen i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru wneud mwy o welliannau er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn. Rydym wedi annog hyn drwy ofyn am ymateb ar y cyd i argymhellion ein hadolygiad.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

“Mae'n amlwg bod ymrwymiad staff Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a staff adrannau achosion brys wedi parhau i arwain at brofiadau cadarnhaol i gleifion, er gwaethaf heriau'r pandemig. Fodd bynnag, mae angen gwneud gwaith sylweddol ar y cyd er mwyn datrys yr oedi hir wrth drosglwyddo gofal, sy'n un agwedd ar y problemau ehangach sy'n ymwneud â llif cleifion ym mhob rhan o GIG Cymru. Rwy'n disgwyl i'r argymhellion sy'n deillio o'r adolygiad hwn gael eu datblygu ar y cyd â gwaith arall sy'n mynd rhagddo yn y maes, ac yng nghyd-destun y gwaith hwn, er mwyn sicrhau'r gwelliannau sydd eu hangen.”