Roeddem yn cynnal adolygiad lleol o Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gyda'r nod o ystyried yr effaith y mae aros mewn ambiwlansys y tu allan i Adrannau Achosion Brys yn ei chael ar ddiogelwch, preifatrwydd, urddas a phrofiad cyffredinol cleifion yn ystod pandemig COVID-19.
Mae amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth yn dangos y gall fod angen i gleifion aros mewn ambiwlansys y tu allan i Adrannau Achosion Brys ysbytai am gyfnodau hir iawn, yn arbennig pan fydd y system gofal iechyd o dan bwysau. Roedd yr adolygiad lleol hwn yn ystyried yr effaith y mae aros mewn ambiwlansys y tu allan i Adrannau Achosion Brys yn ei chael ar ddiogelwch, preifatrwydd, urddas a phrofiad cyffredinol cleifion. Mae pwysau unigryw, nas gwelwyd o'r blaen, ar y system gofal iechyd bellach o ganlyniad i bandemig COVID-19; yng ngoleuni hyn, roedd yr adolygiad yn ystyried profiad cleifion dros y 12 mis diwethaf er mwyn deall yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y broblem hon.
Mae’r adroddiad terfynol yr adolygiad isod.
Dogfennau
-
Adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru – Prosesau trosglwyddo rhwng yr ambiwlans a'r ysbyty – Cleifion , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 87 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:87 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru – Cylch Gorchwyl – Adolygiad Lleol o Ddiogelwch, Urddas a Phrofiad Cleifion wrth aros mewn Ambiwlansys pan fydd oedi wrth drosglwyddo gofal , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 224 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:224 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru - Adolygiad o Ddiogelwch, Preifatrwydd, Urddas a Phrofiad Cleifion wrth aros mewn Ambiwlansys pan fydd Oedi wrth Drosglwyddo Gofal , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MBCyhoeddedig:Maint y ffeil:2 MBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.