Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

5 Hyd 2020

Mae Prif Weithredwyr Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Gillian Baranski ac Alun Jones, wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at brif weithredwyr awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG ledled Cymru i rannu rhai o'r prif faterion sydd wedi codi yn eu gwaith dros y chwe mis diwethaf. Mae'n amlwg y bydd angen mynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn genedlaethol ac yn lleol, a'r gobaith yw y byddant yn cael eu hystyried wrth gynllunio a gwella ar gyfer yr hyn a fydd, heb os, yn aeaf heriol i'r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

30 Medi 2020

Mae’r adolygiad o trefniadau rheoli cleifion mewn Canolfannau Cyswllt Clinigol Gwasanaethau Meddygol Brys Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gwneud argymhellion i helpu i wella ansawdd y gwasanaeth.

2 Medi 2020

Ym mis Rhagfyr 2019, cymerwyd rhan mewn Adolygiad ar y cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant yng Nghasnewydd. Yr arolygiad ar y cyd oedd yr arolygiad peilot cyntaf yng Nghymru i gynnwys pum arolygiaeth yn adolygu trefniadau amddiffyn plant.

12 Awst 2020

Adroddiad ar y cyd rhyngom ni ac Arolygiaeth Gofal Cymru

17 Gorff 2020

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am sut rydym wedi ymateb i COVID-19 a beth bydd ein ffordd o weithio ar ran sicrwydd ac arolygu dros y misoedd nesaf.

19 Meh 2020

Rydym wedi cyhoeddi datganiad sefyllfa COVID-19, sy’n nodi beth rydym wedi’i gwneud wrth ymateb i’r pandemig a sut rydym yn ymateb i’r heriau sy’n ein wynebu ni o hyd. Mae hefyd yn nodi'r ffordd rydym yn addasu ein gwaith wrth i'r cyfyngiadau COVID-19 yn newid.

29 Mai 2020

Yn dilyn ein harolygiad o wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae cyhoeddi'r adroddiad yn nodi carreg filltir yn ein Hadolygiad Cenedlaethol o Wasanaethau Mamolaeth yng Nghymru.

28 Mai 2020

Rydym wedi penderfynu y gallwn ddechrau cyhoeddi adroddiadau arolygu a gwblhawyd ar gyfer lleoliadau gofal iechyd y GIG.

18 Mai 2020

Mae'r arolygwyr gofal iechyd Emma Scott a Lauren Young, y mae'r ddwy ohonynt yn nyrsys cofrestredig, wedi bod yn gweithio mewn rolau rheng flaen yn y GIG yn ystod pandemig COVID-19, gan barhau i weithio i AGIC ar yr un pryd.

4 Mai 2020

Mae hwn yn ddatganiad ar y cyd i'w rannu â darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol oddi wrth Gillian Baranski, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru ac Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.