Neidio i'r prif gynnwy

Strategaeth 'Gwneud Gwahaniaeth' 2018-2021 AGIC – Adolygiad o'n cynnydd

Ym mis Mawrth 2021, daeth strategaeth tair blynedd AGIC, Gwneud Gwahaniaeth, i ben.

Rydym wedi gwneud cryn gynnydd fel sefydliad wrth gyflawni ein blaenoriaethau, ond er mwyn cynnal gwerthusiad priodol o'n cynnydd, mae'n bwysig casglu safbwyntiau'r rheini rydym yn gweithio iddynt ac yn gweithio gyda nhw. Mae hefyd yn bwysig, wrth bennu strategaeth newydd i'r sefydliad o 2022, ein bod yn cael cymaint o safbwyntiau â phosibl am ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn gyfrifol am sicrhau ansawdd, diogelwch ac effeithiolrwydd gofal iechyd ledled Cymru ac yn eich ardal chi. Rydym yn gyfrifol am gadw golwg ar y gofal a ddarperir gan ysbytai, meddygon teulu, deintyddion, clinigau a thimau cymunedol. Rydym yn ystyried y gofal a ddarperir i bobl o bob oedran, o adeg geni hyd at ofal diwedd oes.

Rydym yn awyddus iawn i glywed eich barn amdanom ni, beth y dylem barhau i'w wneud a beth y gallem ei wneud yn wahanol neu'n well.

Cliciwch yma i gymryd ein harolwg byr. Diolch!