Neidio i'r prif gynnwy

Mae trefniadau diogel ac effeithlon ar waith ar gyfer brechiadau torfol, a roddir gan staff ymroddedig sy'n gweithio'n galed

Heddiw [27 Mai], mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi crynodeb o ganfyddiadau arolygiadau o ganolfannau brechu torfol ledled Cymru.

Yn ystod mis Mawrth 2021, gwnaethom gynnal cyfres o arolygiadau â phwyslais penodol, gan gynnwys ymweliadau ag wyth canolfan brechu torfol. Gwnaethom ystyried y trefniadau a roddwyd ar waith yn y canolfannau hyn ledled Cymru i reoli'r risgiau i iechyd a diogelwch y bobl sy'n dod i gael brechiad. Mae'r adroddiadau arolygu hyn i'w gweld ar ein gwefan, ac rydym wedi cyflwyno canfyddiadau a themâu cenedlaethol ar ffurf Bwletin Astudio Ansawdd.

Fel rhan o'n gwaith, gofynnwyd i gleifion a staff roi adborth ar unrhyw un o'r canolfannau brechu torfol yng Nghymru, nid dim ond y canolfannau y gwnaethom ymweld â nhw. Cawsom dros 500 o ymatebion gan bobl a oedd wedi cael eu brechiad, ac roedd adborth y cleifion yn gadarnhaol iawn yn gyffredinol. Gwnaethom hefyd weithio gyda'r Cynghorau Iechyd Cymuned, sydd wedi ceisio adborth gan bobl ledled Cymru am eu profiad o gael brechiadau.

Dilynodd ein dull arolygu brofiad cleifion drwy'r broses frechu, o'r adeg cyn iddynt gael eu brechiad i'r adeg ar ôl iddynt ei gael, a'u hadferiad.

Yn gyffredinol, gwelsom fod y byrddau iechyd wedi rhoi trefniadau priodol ar waith i oruchwylio'r broses o gyflawni eu rhaglenni brechu yn ddiogel, er gwaethaf yr amgylcheddau unigryw a pha mor gyflym y maent wedi cael eu paratoi a'u staffio. Gwelsom enghreifftiau cadarnhaol o frechlynnau COVID-19 yn cael eu rheoli'n ddiogel, mesurau atal a rheoli heintiau da a staff ymroddedig sy'n gweithio'n galed yn rhoi gofal diogel i gleifion.

Fodd bynnag, gwnaethom nodi bod angen gwneud rhai gwelliannau yn ystod ein hymweliadau er mwyn cynnal diogelwch y cleifion, gan gynnwys cynnal mwy o archwiliadau, sicrhau cydymffurfiaeth well â gweithdrefnau diogelwch tân a gwagio'r adeilad, ac archwilio cyfarpar dadebru yn fwy rheolaidd. Lle y gwelsom y materion hyn, aeth pob un o'r byrddau iechyd ati'n brydlon ac effeithiol i fynd i'r afael â'r risgiau a nodwyd.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

Mae'n amlwg bod y byrddau iechyd wedi gweithio'n galed iawn i gynllunio a pharatoi ar gyfer rhoi brechiadau yn eu rhanbarthau er mwyn helpu i ddiogelu pobl ledled Cymru rhag COVID-19. Drwy ein gwaith, roedd yn amlwg yn y mwyafrif helaeth o achosion fod y trefniadau sydd ar waith ar gyfer rhoi brechiadau yn ddiogel ac yn effeithlon, er gwaethaf maint, cyflymder a natur gymhleth y safleoedd a'r timau dros dro.