Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Mae’r adolygiad o trefniadau rheoli cleifion mewn Canolfannau Cyswllt Clinigol Gwasanaethau Meddygol Brys Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gwneud argymhellion i helpu i wella ansawdd y gwasanaeth.
Ym mis Rhagfyr 2019, cymerwyd rhan mewn Adolygiad ar y cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant yng Nghasnewydd. Yr arolygiad ar y cyd oedd yr arolygiad peilot cyntaf yng Nghymru i gynnwys pum arolygiaeth yn adolygu trefniadau amddiffyn plant.
Rydym wedi cyhoeddi datganiad sefyllfa COVID-19, sy’n nodi beth rydym wedi’i gwneud wrth ymateb i’r pandemig a sut rydym yn ymateb i’r heriau sy’n ein wynebu ni o hyd. Mae hefyd yn nodi'r ffordd rydym yn addasu ein gwaith wrth i'r cyfyngiadau COVID-19 yn newid.
Yn dilyn ein harolygiad o wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae cyhoeddi'r adroddiad yn nodi carreg filltir yn ein Hadolygiad Cenedlaethol o Wasanaethau Mamolaeth yng Nghymru.
Mae'r arolygwyr gofal iechyd Emma Scott a Lauren Young, y mae'r ddwy ohonynt yn nyrsys cofrestredig, wedi bod yn gweithio mewn rolau rheng flaen yn y GIG yn ystod pandemig COVID-19, gan barhau i weithio i AGIC ar yr un pryd.
Mae hwn yn ddatganiad ar y cyd i'w rannu â darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol oddi wrth Gillian Baranski, Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru ac Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ar gynllunio gofal ymlaen llaw yng Nghymru.
Mae eich gwybodaeth yn ein helpu i benderfynu pryd i arolygu, lle i arolygu a beth i'w arolygu. Gadewch i ni wella gofal iechyd gyda'n gilydd. Rhoi adborth