Neidio i'r prif gynnwy

Mae AGIC yn annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i gryfhau'r oruchwyliaeth o wasanaethau gofal iechyd i CEM Abertawe

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad sy’n amlygu’r angen i wella trefniadau llywodraethu ansawdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau gofal iechyd amserol, diogel ac effeithiol i boblogaeth Carchar Ei Mawrhydi Abertawe (CEM Abertawe).

Adolygiad Lleol o Drefniadau Llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer Darparu Gwasanaethau Gofal Iechyd i Garchar Ei Mawrhydi Abertawe

 

Mae'r adroddiad yn ganlyniad adolygiad diweddar yn edrych ar y prosesau llywodraethu sydd ar waith yn y bwrdd iechyd ar gyfer darparu gofal iechyd i CEM Abertawe. Mae'r adroddiad yn rhoi manylion canfyddiadau AGIC ac argymhellion ar gyfer gwella. Roedd y penderfyniad i gynnal yr adolygiad hwn yn seiliedig ar bryderon sy’n ymwneud ag ymateb y bwrdd iechyd i weithredu gwelliannau, yn dilyn arolygiadau blaenorol a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi.

Nododd adolygiad AGIC nifer o feysydd i'w gwella. Nid yw’r trefniadau llywodraethu ansawdd sydd ar waith yn y bwrdd iechyd yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau gofal iechyd diogel ac effeithiol i’r carchar yn ddigonol. Mae AGIC wedi nodi'r angen i gryfhau'r trefniadau hyn a chodi proffil gofal iechyd y carchar yn y bwrdd iechyd, er mwyn sicrhau bod ansawdd gofal iechyd y carchar yn cael ei gynllunio, ei ddarparu a'i fonitro'n effeithiol.

Mae angen gwaith partneriaeth cryfach rhwng y bwrdd iechyd a’r carchar, i sicrhau bod y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau yn adlewyrchu'r bwriad ar gyfer y presennol a'r dyfodol.

Canfu AGIC fod diffyg prosesau digonol ar waith i oruchwylio safonau ansawdd a nododd wendidau yn y modd y caiff risgiau sy’n ymwneud â gofal iechyd y carchar eu cofnodi, eu huwchgyfeirio a’u rheoli. Roedd hyn yn cynnwys gwendidau o ran mynd i'r afael â materion a nodwyd gan adroddiadau ac adolygiadau allanol, a diffyg tystiolaeth gref o ddysgu o argymhellion a chasglu profiad cleifion i lywio'r gwaith o wella gwasanaethau.

Canfu’r adolygiad hefyd nad oedd profiadau a phryderon a godwyd gan garcharorion, megis oedi wrth gael mynediad at wasanaethau deintyddol ac optometreg, yn cael eu defnyddio’n effeithiol i lywio’r gwaith o gynllunio a gwella gwasanaethau.

Mae AGIC yn argymell bod angen i ofal iechyd y carchar, gan gynnwys ansawdd y gwasanaeth, gael lle mwy amlwg ar agenda ansawdd y bwrdd iechyd, fel y gellir darparu gofal diogel ac effeithiol i garcharorion, sy’n gyfartal â’r hyn a gaiff y boblogaeth ehangach y mae’n ei gwasanaethu.

Mae AGIC wedi gofyn i’r bwrdd iechyd a bwrdd partneriaeth y carchar ystyried canfyddiadau’r adolygiad hwn yn ofalus a gweithredu ar yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad. Bydd AGIC yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd i sicrhau bod gwelliannau’n cael eu gwneud mewn modd amserol a bydd yn monitro’r cynnydd a wneir.