Neidio i'r prif gynnwy

Cynghorydd y Tîm Clinigol Acíwt

Rydym yn cynnig secondiad unigryw i Gynghorydd Tîm Clinigol Acíwt yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Mae'r rôl hon, sydd am gyfnod o chwe mis, yn darparu amlygiad strategol, cyfle i ddatblygu sgiliau arwain ac i lywio prosesau sicrwydd ansawdd ledled Cymru.

Rydym yn recriwtio! We are recruiting!

Mae hwn yn gyfle unigryw a gwerthfawr i dreulio amser yn gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, gan feithrin dealltwriaeth o'i rôl a'i ffyrdd o weithio, a gwneud cyfraniad ystyrlon i'r agenda ansawdd. 

Mae cwmpas y rôl – sef cydlynu'r broses o recriwtio adolygwyr cymheiriaid, cefnogi mentrau sicrhau ansawdd, a dirprwyo ar ran uwch-arweinwyr clinigol - yn cynnig profiad cyfoethog ac amrywiol a fyddai'n gwella gwybodaeth strategol unigolyn, ei allu i arwain a'i ddealltwriaeth weithredol yn sylweddol. 

Caiff y secondiad ei gynnig am gyfnod o chwe mis ac mae'n gyfle i rywun ymgymryd â rôl uwch gan ddatblygu rhwydweithiau cryf ym mhob rhan o'r sefydliad. Byddai'n brofiad gwerth chweil ac yn cynnig her broffesiynol i'r ymgeisydd cywir.