Mae cydweithio gyda sefydliadau eraill yn helpu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) i wneud ein gwaith yn well.
Mae gennym gytundebau ffurfiol, o'r enw Memoranda Cyd-ddealltwriaeth, â grwpiau gwahanol fel rheoleiddwyr, cyrff y llywodraeth, a sefydliadau proffesiynol. Mae'r cytundebau hyn yn ein helpu i rannu gwybodaeth, osgoi ailadrodd gwaith, ac ymateb yn gyflymach ac mewn ffordd wybodus pan fo pryderon. Drwy weithio mewn partneriaeth, gallwn amddiffyn pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal iechyd yn well a gwneud yn siŵr bod gofal yng Nghymru yn ddiogel ac o ansawdd da.

Memoranda Cyd-ddealltwriaeth â Phartneriaid
Memoranda Cyd-ddealltwriaeth â Rheoleiddwyr
- Awdurdod Ffrwythlondeb ac Embryoleg Dynol (HFEA) (Rhagfyr 2024)
- Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (Ebrill 2021)
- Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (Ionawr 2021)
- Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (Chwefror 2020)
- Archwilydd Cyffredinol Cymru (Medi 2016)
- Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (Mawrth 2025)
- Cyngor Deintyddol Cyffredinol (Chwefror 2015)
- Cyngor Fferyllol Cyffredinol (Mawrth 2015)
- Cyngor Meddygol Cyffredinol (Mawrth 2025)
Memoranda Cyd-ddealltwriaeth â Gwasanaethau Cwyno ac Eirioli
- Llais (Rhagfyr 2023)
- Gwasanaeth Dyfarnu Cwynion y Sector Annibynnol (Mehefin 2025)
- Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Hydref 2024)
Memoranda Cyd-ddealltwriaeth â Chyrff Cyhoeddus sy'n cefnogi'r GIG
- Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) (Mehefin 2025)
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) (Awst 2020)
- Pherfformiad a Gwella GIG Cymru (Awst 2025)
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Chomisiynwyr
- Chomisiynydd Plant Cymru (CPC) (Ionawr 2025)
- Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Rhagfyr 2024)
Memoranda Cyd-ddealltwriaeth ag Arolygiaethau ar y Cyd
- Gweinidogion Cymru (Rhagfyr 2022)
- Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi (Hydref 2020)
- Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi (Mawrth 2021)
- Rhaglen Arolygiaeth ar y Cyd: Canllawiau Rhannu Gwybodaeth
Memoranda Cyd-ddealltwriaeth â Cholegau Brenhinol
- Coleg Brenhinol y Meddygon (Medi 2020)
- Coleg Brenhinol yr Anesthetegyddion (Rhagfyr 2019)
- Coleg Brenhinol y Bydwragedd (Medi 2025)
Memoranda Cyd-ddealltwriaeth â Sefydliadau Cyflawni
- Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru (Gorffennaf 2020)