Sut y byddwn yn gweithio a rhannu gwybodaeth gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Mae'r memorandwm newydd hwn yn nodi'r fframwaith i gefnogi ein perthynas weithio ar y cyd. Rydym yn cytuno ar sut y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd trwy roi'r egwyddorion canlynol ar waith:
- gwneud penderfyniadau sy'n hyrwyddo gofal iechyd o ansawdd uchel ac sy'n diogelu ac yn hybu iechyd, diogelwch a lles cleifion;
- parchu statws annibynnol pob sefydliad;
- defnyddio adnoddau'n effeithiol ac yn effeithlon.
Nid yw'r memorandwm hwn yn cael ei gyfyngu gan amser a bydd yn parhau i fod yn effeithiol oni bai bod angen newid yr egwyddorion a ddisgrifir ynddo neu eu bod yn peidio â bod yn berthnasol.
Dogfennau
-
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng: Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 513 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:513 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.