Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin Arsylwi - Diweddariad y Gwanwyn 2022

Bwletin Arsylwi Mawrth 2022

Croeso i'r cylchlythyr bob tri mis newydd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Mae Bwletin Arsylwi chwarterol AGIC yn rhannu ein newyddion diweddaraf, yn crynhoi themâu allweddol yr ydym wedi’u darganfod, ac yn amlinellu diweddariadau arwyddocaol, felly gyda’n gilydd gallwn gyflawni ein nod o wella gofal iechyd ar draws Cymru.

Dim ond rhan o'n hymrwymiad i ddeall disgwyliadau ein rhanddeiliaid yn well yw'r bwletin hwn, ac i ymgysylltu'n rhagweithiol a rhoi adroddiad ar ein gweithgarwch yn rheolaidd.

Darllenwch ymlaen i ddarganfod yr hyn yr ydym wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar.

Diweddariad ar Weithgarwch

Dull gweithredu tuag at ein gwaith

Yn dilyn symud i lefel rhybudd sero ledled Cymru ar 28 Ionawr 2022, gwnaethom ailddechrau'r holl arolygiadau arferol ar safleoedd y GIG, gan barhau i gynnal asesiadau risg ar gyfer pob darn o waith sicrwydd ac arolygu a gynlluniwyd. Ni fydd unrhyw newid i'n rhaglen waith ar gyfer lleoliadau gofal iechyd annibynnol a phractisau deintyddol.

Hoffem ddiolch i dimau'r GIG a darparwyr a staff iechyd annibynnol am eu hymrwymiad parhaus yn ystod y cyfnod hwn, ac am barhau i ymgysylltu'n gadarnhaol â'n gwaith er gwaethaf pwysau eraill.

Cynllunio ein rhaglen ar gyfer 2022-2023

ydym wedi cwblhau ein gwaith cynllunio'n ddiweddar ar gyfer y flwyddyn arolygu 2022-2023.

 Mae ein proses gynllunio yn seiliedig ar risg ac yn gymhleth, gan gymryd gwybodaeth o sawl maes. Rydym yn dadansoddi'r canlynol:

  • Gwybodaeth ar lefel genedlaethol a lefel leol
  • Risgiau penodol hysbys i ddiogelwch cleifion
  • Adolygiadau o ganlyniadau arolygiadau blaenorol
  • Risgiau cyfredol / risgiau sy'n dod i'r amlwg yn y sector

Yn y sector gofal iechyd annibynnol, rydym hefyd yn ystyried ein cyfrifoldebau statudol a sut y byddwn yn bodloni ein targedau ar gyfer amlder arolygu.

Rydym yn blaenoriaethu ein gwaith sicrwydd ac arolygu i sicrhau bod adnoddau'n cael eu cyfeirio at feysydd lle mae risg sylweddol i ddiogelwch cleifion. Rydym hefyd yn ystyried lle y gallwn wneud yr effaith fwyaf. Er enghraifft, gall adolygiad o wasanaeth gymryd mwy o adnoddau, ond gallai ein hargymhellion i wella gael effaith gadarnhaol fwy ar y cleifion. Mae ein cynllun arolygu ac adolygu llawn yn cael ei herio a'i graffu'n drwyadl trwy ein mecanweithiau llywodraethu mewnol.

Gwaith Uwchgyfeirio a Gorfodi

Mae AGIC yn defnyddio pwerau cyfreithiol

FYn dilyn ymchwiliad troseddol diweddar mewn perthynas â gwasanaeth heb ei gofrestru, mae AGIC wedi cyflwyno rhybuddiad syml ar gyfer torri adran 11 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Fel rheoleiddiwr gwasanaethau gofal iechyd annibynnol yng Nghymru, mae AGIC yn ymrwymedig i gymryd camau pan nad yw safonau yn cael eu bodloni. Er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal diogel ac effeithiol, bydd AGIC yn cymryd camau gweithredu pan nad yw darparwr gofal iechyd annibynnol yn cydymffurfio â'r gofynion rheoliadol.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth ynglŷn â gwasanaeth gofal iechyd heb ei gofrestru yng Nghymru, rhowch wybod inni gan ddefnyddio'n ffurflen ar-lein.

Os ydych yn ystyried darparu gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac nid ydych wedi cofrestru gyda ni eto, gallai fod angen ichi gofrestru gyda ni cyn darparu gwasanaethau. Gallwch gofrestru naill ai fel unigolyn neu fel sefydliad.

Rydym wedi cynhyrchu canllaw a fydd yn eich helpu i benderfynu a oes angen i chi gofrestru gyda ni. Darperir hwn fel canllaw cyffredinol yn unig. Darperir gwasanaethau gofal iechyd mewn nifer o ffyrdd gwahanol a chan amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Os oes unrhyw amheuaeth y gallai fod angen cofrestru, fe'ch cynghorir i gysylltu ag AGIC am gyngor trwy gwblhau a chyflwyno Ffurflen Ymholiad Cofrestru.

Gellir gweld mwy o wybodaeth ar ein gwefan.

Magnifying glass, heart in hands, target, tick in circle, group of people, cogs and shaking hands icons

Gwasanaeth sydd Angen Gwelliant Sylweddol – Gwasanaethau Fasgwlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Ar 21/02/2022, gwnaethom ddynodi Gwasanaethau Fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel Gwasanaeth sydd Angen Gwelliant Sylweddol.

Nododd Adroddiad Adolygu Cofnodion Clinigol Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, a gyhoeddwyd ar 20 Ionawr 2022, nifer o bryderon sy'n nodi perygl i'r cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaeth fasgwlaidd.

Mae'r pryderon hyn yn ymwneud â'r canlynol:

  • Gwaith gwael gan y tîm amlddisgyblaethol
  • Dogfennau a gwaith cadw cofnodion gwael
  • Ansawdd y gofal clinigol

Mae dynodiad Gwasanaeth sydd Angen Gwelliant Sylweddol yn ein galluogi i gynllunio a chyflwyno gweithgareddau yn y dyfodol sy'n angenrheidiol i gael sicrwydd am ansawdd a diogelwch y gofal yn y gwasanaeth hwnnw. Byddwn yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau bod gwelliannau yn cael eu gwneud mewn modd amserol. Bydd y statws hwn yn cael ei ddiweddaru unwaith bod AGIC yn fodlon bod y gwelliannau angenrheidiol wedi cael eu cyflawni.

Gellir gweld mwy o wybodaeth am hyn ar ein gwefan.

Diweddariad ar y Rhaglen Sicrwydd ac Arolygu

rs mis Rhagfyr 2021, rydym wedi cyhoeddi dros 60 o adroddiadau o'n gwaith sicrwydd ac arolygu mewn ystod o wasanaethau, o glinigau laser i ysbytai iechyd meddwl ar gyfer cleifion mewnol ac adrannau achosion brys. I'w nodi ymhlith hyn, roedd dau arolygiad o adrannau achosion brys sy'n pwysleisio’n glir nid yn unig faterion diogelwch cleifion unigol, ond sut mae pwysau ar y system ehangach yn effeithio ar lif cleifion trwy ysbytai, ac felly'n rhoi pwysau sylweddol ar adrannau achosion brys. Gellir cyrchu ein hadroddiadau llawn ar ein gwefan. 

Ein hadroddiadau

gellir gweld yr holl adroddiadau wedi'u cyhoeddi ar ein gwefan – Dod o hyd i adroddiad arolygu

Eisiau darganfod pryd mae adroddiadau AGIC i fod i gael eu cyhoeddi? Cymerwch olwg ar ein Hamserlen Gyhoeddi.

Dull Adrodd Newydd

Rydym wedi cwblhau prosiect i weithredu dull adrodd newydd ar gyfer arolygiadau ar safleoedd. Gweithredir y dull newydd hwn ym mis Ebrill 2022, a bydd yn cynnwys cyhoeddi crynodeb cyhoeddus ac adroddiad manwl llawn ar gyfer y lleoliad. Rydym hefyd wedi adolygu sut yr ydym yn adrodd i waredu ailadrodd dianghenraid.

Diweddariadau i’r Fethodoleg

Bu gwaith parhaus i ddatblygu a gwella methodolegau cyfredol.

Rydym wedi datblygu methodoleg newydd a ddefnyddir ar gyfer arolygiadau iechyd meddwl ar safleoedd ac rydym wrthi'n datblygu methodoleg newydd y byddwn yn ei defnyddio i archwilio ansawdd meddygfeydd.

ipad and clipboard icon, people talking icon and clipboard with checklist icon

Adolygiadau

Adolygiad Cenedlaethol o Lif Cleifion – Llwybr Strôc

Ar hyn o bryd, rydym yn ymgymryd ag adolygiad cenedlaethol i asesu effaith unrhyw oedi mewn asesiad neu driniaeth ar gleifion. Rydym yn defnyddio'r llwybr strôc i asesu ansawdd taith claf. Rydym am ddeall yr hyn sy'n cael ei wneud i liniaru unrhyw niwed i'r rheiny sy'n aros am ofal a sut mae ansawdd a diogelwch gofal yn cael eu cynnal ar hyd y llwybr strôc.

Os ydych chi, aelod o'ch teulu neu ffrind wedi dioddef strôc yn ystod yr ychydig o flynyddoedd diwethaf, gofynnir ichi gwblhau ein harolwg byr.

Bydd eich profiad yn ein helpu i nodi arferion da a gwelliannau lle mae eu hangen, er mwyn darparu gwell gofal i gleifion yng Nghymru.

Patient in hospital bed, nurse and doctor stood by bedside. Patient in hospital gown receiving Physio Therapy with a physiotherapist by their side

Adolygiad Lleol o Drefniadau Rhyddhau Cleifion sy'n Oedolion o Wasanaethau Iechyd Meddwl Cleifion Mewnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Mae ystod o ffynonellau gwybodaeth a ystyriwyd gan AGIC wedi nodi pryderon ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Rydym felly wedi penderfynu cynnal adolygiad lleol a fydd yn ceisio archwilio ansawdd y gwasanaethau iechyd meddwl a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Darllenwch ein cylch gorchwyl ar ein gwefan.

Rydym bellach wedi cyhoeddi ein Hadolygiad Cenedlaethol o Atal Argyfwng Iechyd Meddwl yn y Gymuned.

Mae AGIC wedi archwilio profiadau pobl sy'n cyrchu gofal a thriniaeth – i ddeall sut mae gwasanaethau'n eu helpu nhw i reoli eu cyflyrau iechyd meddwl ac atal argyfwng. Bu’r adolygiad hefyd yn ystyried sut mae meddygon teulu a gwasanaethau eraill y GIG ledled Cymru yn darparu gofal diogel ac effeithiol i helpu i atal argyfwng iechyd meddwl, a’r hyn y mae sefydliadau trydydd sector yn ei wneud i gefnogi hyn.

Rhai o'r canfyddiadau allweddol o'r adroddiad:

Aneffeithlonrwydd yn y broses – Canfuodd adolygiad AGIC y gall prosesau atgyfeirio fod yn gymhleth, gan arwain at amseroedd aros a allai fod yn hir pan nad oes gan unigolion ddigon o gymorth. 

Staff ymrwymedig - Mae’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal iechyd, gwasanaethau brys a gwasanaethau trydydd sector, a ledled Cymru wedi ymrwymo ac yn ymroddedig i ddarparu cymorth a gofal i bobl ag anghenion iechyd meddwl. 

Diweddariad Busnes AGIC

Cynllun Strategol 2022–2025 wedi'i Gyhoeddi

Mae heddiw, 31 Mawrth 2022, yn nodi llansiad ein cynllun strategol newydd ar gyfer 2022–25. Mae wedi cael ei ddatblygu drwy ymgynghoriad â'n staff ein hunain, rhanddeiliaid ac aelodau'r cyhoedd

dywedodd Alun Jones Prif weithredwr dros dro

'Mae ein gweledigaeth ar gyfer y tair blynedd nesaf yn cydnabod bod yn rhaid i ni aros yn sefydliad hyblyg, un sy'n gallu addasu ein gwaith a defnyddio ein hadnoddau yn fwyaf effeithiol i gyflawni ein nod, sef i fod yn llais dibynadwy sy'n ysgogi gwelliant mewn gofal iechyd ac sy'n dylanwadu arno. Byddwn yn ystyried ansawdd y gofal iechyd wrth iddo gael ei ddarparu i bobl pan fyddant yn cael mynediad at wasanaethau, eu defnyddio a symud rhyngddynt. Bydd angen inni weithio ar y cyd ag eraill, gan harneisio'r mewnwelediad, dealltwriaeth ac arbenigedd y maent yn eu darparu, er mwyn ein helpu i ystyried dull system gyfan a chyflawni yn erbyn ein nod.'

Ein nod fel sefydliad dros y tair blynedd nesaf yw:

Bod yn llais dibynadwy sy'n ysgogi gwelliant mewn gofal iechyd ac sy'n dylanwadu arno

Ein blaenoriaethau

  • Byddwn yn canolbwyntio ar ansawdd y gofal iechyd a ddarperir i bobl a chymunedau wrth iddynt gyrchu a defnyddio gwasanaethau a symud rhyngddynt
  • Byddwn yn addasu ein dull gweithredu i sicrhau ein bod yn ymatebol i risgiau i ddiogelwch cleifion sy’n dod i’r amlwg
  • Byddwn yn cydweithio er mwyn ysgogi’r gwaith o wella systemau a gwasanaethau ym maes gofal iechyd
  • Byddwn yn cefnogi ac yn datblygu ein gweithlu i’w galluogi,a’r sefydliad, i gyflawni ein blaenoriaethau.

Recriwtio

Rydym wedi bod yn brysur iawn o ran recriwtio. Mae hyn yn cynnwys recriwtio dros 20 o adolygwyr cymheiriaid newydd mewn amrywiaeth o arbenigeddau er mwyn paratoi ar gyfer ein rhaglen arolygu ac adolygu yn 2022-23. Yn ogystal, rydym wedi recriwtio nifer o staff newydd i'r sefydliad i lenwi swyddi gwag yn ein tîm arolygu, ein tîm strategaeth ac ymgysylltu, a'r tîm cofrestru.

Mae ein tîm arolygu hefyd wedi cynnal ymgyrch recriwtio dros y chwarter diwethaf, gan gyflogi arolygwyr newydd ar raddfeydd arolygydd gofal iechyd ac uwch-arolygydd gofal iechyd. Mae ein huwch-arolygwyr gofal iechyd yn arwain ein harolygiadau mwy cymhleth, megis wardiau ysbyty ac unedau iechyd meddwl. Mae ein harolygwyr gofal iechyd yn arwain ein harolygiadau o ddeintyddfeydd, meddygfeydd a chlinigau laser. Maent hefyd yn cefnogi ein huwch-arolygwyr gofal iechyd ar yr arolygiadau mwy cymhleth. Mae gan ein harolygwyr amrywiaeth o gefndiroedd, gyda llawer yn nyrsys cofrestredig o ddisgyblaethau gwahanol, ond mae gan bob un ohonynt brofiad arolygu/rheoliadol cryf

Dweud eich dweud

Rydym yn cynnal arolygon pan hoffem gael eich barn ar bynciau penodol.

Mae gennym amrediad o arolygon staff a chleifion ar agor ar hyn o bryd ac rydym yn croesawu eich barn ar unrhyw un o'r pynciau.

Gellir bellach gweld yr holl arolygon sydd ar agor ar ein tudalen arolygon ar ein gwefan.

Follow us

Rydym wedi cofrestru ar LinkedIn. Cadwch yn gyfredol gyda phopeth sy'n ymwneud ag AGIC trwy ein ddilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol eraill:

Facebook, Twitter, LinkedIn and YouTube logos