Neidio i'r prif gynnwy

AGIC yn defnyddio pwerau cyfreithiol

Yn dilyn ymchwiliad troseddol diweddar yn ymwneud â gwasanaeth anghofrestredig, mae AGIC wedi cyhoeddi rhybudd syml am dorri adran 11 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Fel y rheoleiddiwr gwasanaethau gofal iechyd annibynnol yng Nghymru, mae AGIC wedi ymrwymo i cymryd camau pan na fydd safonau yn cael eu bodloni.  Er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael gofal effeithiol diogel bydd AGIC yn gweithredu pan na fydd darparwr gofal iechyd annibynnol yn cydymffurfio â'r gofynion rheoleiddol.

Os oes gennych wybodaeth am ddarparwr gofal iechyd heb ei gofrestru yng Nghymru, hoffem glywed gennych.

Os hoffech ddarparu'r gwasanaethau canlynol yng Nghymru mae'n bosibl y bydd angen i chi gofrestru â ni cyn y gellir darparu'r gwasanaethau. Gallwch gofrestru naill ai fel unigolyn neu fel sefydliad.

Rydym wedi llunio canllawiau a fydd yn eich helpu i benderfynu a oes angen i chi gofrestru â ni. Canllaw cyffredinol yn unig yw hwn. Caiff gwasanaethau gofal iechyd eu darparu mewn sawl ffordd wahanol, a hynny gan amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Os bydd unrhyw amheuaeth ynghylch yr angen i gofrestru, fe'ch cynghorir i gysylltu ag AGIC i gael cyngor drwy gwblhau a chyflwyno Ffurflen Ymholiad Cofrestru.