Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiad yn Nodi Cryfderau ond Mae Angen Gwelliannau yn Uned Famolaeth Ysbyty Gwynedd

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o'r gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Gwynedd, a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cynhaliwyd yr arolygiad dros dri diwrnod yn olynol ym mis Chwefror, ac ystyriodd ansawdd a diogelwch y gofal a oedd yn cael ei ddarparu ar Ward Llifon, sy'n arbenigo mewn gofal cynenedigol ac ôl-enedigol.

Ysbyty Gwynedd Gwasanaethau Mamolaeth

Canfu'r arolygwyr fod menywod a'u teuluoedd yn cael eu trin â charedigrwydd a pharch, a bod gofal yn cael ei ddarparu mewn amgylchedd, glân, pwyllog a chroesawgar. Gwelwyd y staff yn rhoi cymorth unigol a oedd yn canolbwyntio ar y claf, a gwelwyd y menywod yn cael meddyginiaethau lleddfu poen mewn modd amserol. Roedd pob un o'r menywod a'r bobl sy'n rhoi genedigaeth y gwnaethom siarad â nhw yn ystod yr arolygiad, a'u teuluoedd, a'r rhan fwyaf o'r unigolion a ymatebodd i'r holiaduron, yn teimlo bod y staff yn eu trin ag urddas a pharch. Gwelsom wybodaeth hybu iechyd wedi'i harddangos yn yr uned, gan gynnwys yr Hwb Dechrau Gorau, yn rhoi cyngor a chymorth cyn beichiogi hyd at y blynyddoedd cynnar mewn amrywiaeth o ieithoedd. Cydnabuwyd bod hyn yn arfer da a chanmoladwy, gan gynnwys cymorth profedigaeth arbenigol a Chlinig Enfys i fenywod a oedd wedi beichiogi'n ddiweddar ar ôl colli babi yn ystod beichiogrwydd. Gwelodd y tîm arolygu ryngweithio cadarnhaol yn ystod rowndiau'r ward, lle y gallai'r menywod ofyn cwestiynau a rhannu eu barn â'r clinigwyr. 

Er bod yr arolygiad wedi nodi meysydd o arfer da, gan gynnwys adborth cadarnhaol gan fenywod a theuluoedd, prosesau rheoli meddyginiaethau effeithiol, gweithdrefnau diogelu cadarn a strwythur rheoli clir, nododd hefyd feysydd allweddol y mae angen rhoi sylw iddynt ar frys er mwyn sicrhau gofal diogel ac effeithiol. 

Ceisiodd AGIC sicrwydd ar unwaith mewn ymateb i bryderon am ddiogelwch cleifion a nodwyd yn ystod yr arolygiad. Roedd y cyntaf yn ymwneud â gwendidau yn arferion trosglwyddo meddygol a chyfathrebu'r staff, nad oeddent yn cael eu cofnodi'n effeithiol neu'n glir yn gyson ym marn yr arolygwyr. Roedd pryder, oni fyddai hyn yn gwella, y gallai gyfaddawdu gallu'r staff i wneud penderfyniadau diogel am ofal, yn enwedig i fenywod yn ystod y cyfnod esgor. Roedd yr ail fater yr oedd angen sicrwydd ar unwaith yn ei gylch yn ymwneud â chydymffurfiaeth isel â hyfforddiant gorfodol ymysg y staff obstetrig. Staff obstetrig yw'r meddygon, y bydwragedd a'r nyrsys sy'n gofalu am fenywod yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth, ac ar ôl i'r baban gael ei eni. Ni chafodd yr arolygwyr sicrwydd bod pob aelod perthnasol o'r staff yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau diweddaraf i ddarparu gofal diogel. Rhaid i'r bwrdd iechyd gymryd camau'n ddi-oed i sicrhau y caiff hyfforddiant ei gwblhau ac y rhoddir mesurau lliniaru priodol ar waith i gynnal diogelwch yn yr interim. 

Canfu'r adroddiad hefyd fod angen gwella'r broses o gael cydsyniad ar sail gwybodaeth, yn enwedig ar gyfer triniaethau obstetrig. Roedd mynediad at wasanaethau cyfieithu yn anghyson, gan achosi problemau cyfathrebu posibl. Cododd yr arolygwyr bryderon am reolaeth yr ail theatr obstetrig, effeithiolrwydd yr Uned Asesu Cleifion Allanol Mamolaeth, a'r broses o gofnodi penderfyniadau allweddol yn ystod y cyfnod esgor. 

Nododd yr arolygwyr fod newidiadau diweddar i arweinyddiaeth bydwreigiaeth, gyda'r rolau bellach yn gyfrifol am y bwrdd iechyd ehangach, wedi golygu bod yr uwch-aelodau o staff yn llai gweladwy yn yr uned. Rhannodd y staff sylwadau cymysg am eu gallu i ymgysylltu â'r arweinwyr a'r ffordd roeddent yn ymdrin â'u pryderon. Gwnaethant hefyd godi pryderon am nifer y polisïau a oedd wedi dyddio, yr angen i wella'r ffordd y caiff staff meddygol eu cynnwys mewn adolygiadau o ddigwyddiadau  a'r ffordd y caiff gwersi a ddysgwyd eu rhannu â'r tîm. 

Nododd yr arolygwyr fod angen parhau i ganolbwyntio ar recriwtio a chadw er mwyn mynd i'r afael â bylchau staffio a chefnogi gofal diogel o ansawdd uchel. Gwnaethant hefyd nodi bod yn rhaid i bob aelod o'r staff, gan gynnwys staff locwm a banc, gael cyfnod sefydlu priodol. 

Er gwaethaf yr heriau hyn, canfu'r arolygiad dystiolaeth o dimau proffesiynol ymrwymedig sy'n gweithio'n galed i ddarparu gofal caredig ac urddasol o dan bwysau. 

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

Mae'r arolygiad hwn yn tynnu sylw at ymroddiad a phroffesiynoldeb y staff wrth ddarparu gofal urddasol sy'n canolbwyntio ar y claf. Mae hefyd yn nodi meysydd y mae angen eu gwella ar unwaith ac yn barhaus. Rydym yn annog y bwrdd iechyd i weithredu'n ddi-oed, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd i sicrhau cynnydd.

Chwefror 2025 - Arolygiad Ysbyty - Gwasanaeth Mamolaeth - Ysbyty Gwynedd, Bangor