Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiad Iechyd Meddwl yn tynnu sylw at bryderon parhaus am ddiogelwch a'r amgylchedd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei hadroddiad arolygu yn dilyn arolygiad dirybudd o wasanaethau iechyd meddwl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant  Arolygiad o Wasanaeth Iechyd Meddwl y GIG

 

Cynhaliwyd yr arolygiad dros dridiau ym mis Ebrill 2026 ac roedd yn canolbwyntio ar ansawdd y gofal ar Wardiau 21 a 22 ac yn yr Uned Gofal Dwys Seiciatrig, sy'n darparu gofal i gleifion â'r anghenion iechyd meddwl mwyaf acíwt.

Canfu'r arolygwyr fod y staff yn trin y bobl â charedigrwydd, parch a thrugaredd, a nododd y cleifion brofiadau gofal cadarnhaol. Roedd y cleifion yn cael eu cefnogi gan brosesau clinigol cryf, gan gynnwys asesiadau trylwyr, adolygiadau rheolaidd o lesiant a mynediad amserol at wasanaethau gofal iechyd. Roedd y Cynlluniau Gofal a Thriniaeth a'r cynlluniau diogelwch unigol yn gynhwysfawr ac yn cael eu hadolygu'n rheolaidd, ac roedd prosesau effeithiol ar waith i gefnogi trefniadau diogelu, gwaith cynllunio gofal a gwaith tîm amlddisgyblaethol.

Fodd bynnag, nododd yr arolygiad hefyd amrywiaeth o bryderon sylweddol sy'n effeithio ar ddiogelwch cleifion ac ansawdd y gofal. Defnyddiodd AGIC ei phroses sicrwydd ar unwaith i geisio sicrwydd gan y bwrdd iechyd mewn perthynas â phryderon sylweddol am yr amgylchedd, atal a rheoli heintiau, a diogelwch y gweithlu. Roedd y rhain yn cynnwys problemau amgylcheddol ar bob ward, megis difrod i osodiadau a ffitiadau, risgiau o ran atal a rheoli heintiau, a risgiau heb eu datrys yn ymwneud â phwyntiau clymu, lle y gallai cleifion o bosibl niweidio eu hunain. Roedd cofnodion y gwasanaethau ystadau yn dangos nifer o broblemau brys a risg uchel heb eu datrys yn ymwneud â gwaith cynnal a chadw, ochr yn ochr â phryderon hirdymor a phwysau o ran capasiti yn y gwasanaethau ystadau.

Nododd yr arolygwyr hefyd gydymffurfiaeth isel â hyfforddiant gorfodol allweddol sy'n hanfodol i ddiogelwch, gan gynnwys cynnal bywyd, atal yn gorfforol, symud a chodi a chario, a diogelwch rhag tân. Nid oedd unrhyw aelod o'r staff wedi cwblhau hyfforddiant ar ddefnyddio silindrau ocsigen cludadwy yn ddiogel, ac ni allai'r arolygwyr gadarnhau a oedd staff nad oeddent wedi cael hyfforddiant wedi bod yn rhan o achosion o atal yn gorfforol. Nodwyd pryderon tebyg yn ystod arolygiad blaenorol gan AGIC yn 2023, gan ddangos nad oedd risgiau a gafodd eu huwchgyfeirio'n flaenorol wedi cael eu lliniaru na'u cynnal yn effeithiol dros amser. Roedd y canfyddiadau hyn yn lleihau'r sicrwydd bod y staff bob amser yn barod i ymateb yn ddiogel i sefyllfaoedd risg uchel. 

Nododd y cleifion eu bod yn wynebu anawsterau wrth gael cyfle i ymgymryd â gweithgareddau therapiwtig, i fynd allan i'r awyr agored ac i ddefnyddio rhai cyfleusterau sylfaenol. Canfu'r arolygwyr nad oedd unrhyw raglen strwythuredig o weithgareddau therapiwtig ar waith ar y wardiau, bod swydd y Cydgysylltydd Gweithgareddau yn wag ac nad oedd unrhyw gymorth therapi galwedigaethol penodol i gleifion yn yr Uned Gofal Dwys Seiciatrig. Roedd problemau yn ymwneud â llety rhywedd cymysg ac ystafelloedd gwely a rennir ar Wardiau 21 a 22 yn parhau i effeithio ar breifatrwydd, diogelwch ac urddas y cleifion.

Mae AGIC wedi nodi disgwyliadau clir ar gyfer gwella a bydd yn parhau i fonitro cynnydd y bwrdd iechyd wrth roi'r camau gweithredu gofynnol ar waith a'u cynnal er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael gofal mewn amgylchedd diogel ac urddasol sy'n cefnogi eu llesiant.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

“Dangosodd ein harolygiad fod gofal uniongyrchol yn cael ei ddarparu gan y staff mewn ffordd dosturiol, a gwnaeth y cleifion sylwadau cadarnhaol yn hyn o beth. Fodd bynnag, nid yw'r bwrdd iechyd wedi cynnal gwelliannau a wnaed yn flaenorol mewn perthynas â phroblemau sylweddol, ac mae risgiau hirdymor o ran ystadau a'r amgylchedd yn parhau. Er nad yw'r canfyddiadau hyn yn unigryw, a'u bod yn adlewyrchu problemau rydym yn eu gweld yn rheolaidd mewn lleoliadau iechyd meddwl yng Nghymru, rydym yn disgwyl i'r bwrdd iechyd gymryd camau parhaus i fynd i'r afael â'r pryderon hyn ac i sicrhau bod cleifion yn cael gofal diogel o ansawdd uchel.”