Neidio i'r prif gynnwy

Uned iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty Gwynedd yn dangos gwelliant ond problemau eraill yn parhau

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (22 Medi 2023) yn dilyn arolygiad dirybudd o uned iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty Gwynedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd yr arolygiad yn canolbwyntio ar dair ward a chafodd ei gynnal dros dri diwrnod dilynol ym mis Mai 2023.

Ysbyty Gwynedd Uned Hergest - Iechyd Meddwl Arbenigol

Mae Uned Hergest, sydd wedi'i lleoli yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn darparu gwasanaethau asesu iechyd meddwl acíwt i gleifion mewnol, sy'n cynnwys Uned Gofal Dwys Seiciatrig (UGDS).

Yn ystod ein harolygiad, gwelsom fod protocolau addas ar waith o ran rheoli risg, iechyd a diogelwch a rheoli heintiau ar y cyfan. Roedd trefniadau llywodraethu sefydledig ar waith i oruchwylio materion clinigol a gweithredol ac roedd y tîm arwain yn hawdd mynd ato, yn cefnogi'r staff ac yn meddu ar ddealltwriaeth dda o anghenion y cleifion. Roedd angen gwneud gwelliannau pellach, gan gynnwys cydymffurfiaeth y staff â hyfforddiant gorfodol. Roedd tystiolaeth bod rhai aelodau o'r staff yn ymgymryd â'r broses o atal y cleifion yn gorfforol heb hyfforddiant digonol.

Drwy gydol yr arolygiad, gwelsom bob aelod o'r staff yn trin y cleifion ag urddas a pharch. Clywsom yn uniongyrchol gan nifer bach o gleifion ac roeddem yn falch o nodi bod adborth rhai ohonynt yn sôn bod y staff yn gwrtais, yn gefnogol ac yn barod i helpu. Roedd yn gadarnhaol nodi bod gan y cleifion eu rhaglenni gofal eu hunain a oedd yn adlewyrchu eu hanghenion a'u risgiau unigol. Fodd bynnag, gwelsom fod diffyg rhaglenni gweithgareddau therapiwtig penodol ar waith i gleifion er mwyn eu helpu i wella.

Roedd y staff yn ymrwymedig i ddarparu gofal diogel ac effeithiol, ond dywedwyd wrthym nad oedd yn bosibl iddynt atal cleifion rhag dod ag eitemau gwaharddedig ar y wardiau bob amser, sy'n peri risg i'r cleifion, staff ac ymwelwyr. Cadarnhaodd y cleifion hefyd ei bod yn bosibl iddynt ddod ag eitemau gwaharddedig ar y ward er eu bod yn cael eu harchwilio gan y staff a dywedodd nifer bach iawn o gleifion wrthym y gallai hyn wneud iddynt deimlo'n anniogel. Er gwaethaf yr ymatebion hyn, roedd y rhan fwyaf o'r cleifion yn dal i deimlo bod y gwasanaeth a ddarperir gan yr ysbyty ‘yn dda’ neu ‘yn dda iawn.’  Rhaid i'r bwrdd iechyd adolygu ei bolisïau a'i weithdrefnau presennol er mwyn atal cleifion rhag dod ag eitemau gwaharddedig ar y ward.

Gwelsom dystiolaeth bod aelodau o'r staff nad oeddent wedi cael hyfforddiant neu nad oeddent wedi cael yr hyfforddiant diweddaraf ar atal yn gorfforol wedi parhau i ymgymryd â'r broses o atal cleifion yn gorfforol. Fodd bynnag, cawsom sicrwydd y byddai pob aelod o staff yr uned yn cydymffurfio'n llawn â'i hyfforddiant erbyn mis Medi eleni.

Roedd trefniadau boddhaol ar waith i hyrwyddo a diogelu hawliau cleifion, ond roedd y trefniadau cysgu ar ffurf un ystafell gysgu yn peryglu preifatrwydd, urddas a diogelwch y cleifion. Roedd yn gadarnhaol nodi bod gan chwech o'r cleifion eu hystafelloedd eu hunain, ond rydym yn argymell y dylai'r bwrdd iechyd ystyried cyfleoedd ychwanegol i gyflwyno ystafelloedd sengl i gleifion er mwyn gwella profiad y claf yn yr uned.

Mynegodd rhai aelodau o'r staff bryderon nad oedd cymorth seicoleg yn benodol i gleifion mewnol ar gael mwyach, na chymorth meddyg ymgynghorol arbenigol. Soniodd y staff am welliannau i ddiwylliant, morâl ac arferion gwaith yr uned yn ddiweddar, ond nodwyd gennym fod nifer uchel o swyddi gwag ar adeg ein harolygiad. Dywedwyd wrthym y byddai rhai o'r swyddi gwag yn cael eu llenwi gan nyrsys a oedd ar fin cymhwyso a bod prosesau recriwtio ar waith i gynyddu nifer y staff.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

Roedd yn gadarnhaol nodi'r gwelliannau i ddiwylliant, morâl ac arferion gwaith yn Uned Hergest. Fodd bynnag, bydd angen ffocws penodol ar wella diogelwch cleifion drwy atal eitemau gwaharddedig rhag cyrraedd y ward. Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy'n nodi ei gamau gwella. Byddwn yn parhau i fonitro ei gynnydd yn ofalus.

Mai 2023 – Adroddiad Cryno ar yr Arolygiad – Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd, Bangor

Mai 2023 – Arolygiad o Wasanaeth Iechyd Meddwl y GIG – Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd, Bangor