Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi cyhoeddi ein hadolygiad ar y cyd o drefniadau amddiffyn plant (JICPA) yng Nghaerdydd

Cynhaliwyd yr arolygiad ar y cyd ym mis Ionawr 2024.

Logos AGIC, Estyn, HMICFRS a AGC

Rhwng 15 ac 19 Ionawr 2024, gwnaethom weithio gydag Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Fawrhydi (HMICFRS), Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a'r Arolygiaeth dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn) i gynnal arolygiad ar y cyd o'r ymateb amlasiantaethol i achosion o gam-drin ac esgeuluso plant yng Nghaerdydd.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y lefelau cyson uchel o alw, ynghyd â'r cymhlethdod cynyddol ym maes diogelu plant dros y flwyddyn i ddwy ddiwethaf. Mae heriau cyllidebol, prinder ymarferwyr a marchnad gystadleuol, wedi arwain at gyfran gynyddol o weithwyr newydd gymhwyso a gweithwyr dibrofiad ar draws asiantaethau partner. 

Fodd bynnag, nododd yr arolygwyr ffocws cadarnhaol ar ddiogelu ar draws yr awdurdod lleol, yr heddlu lleol a'r bwrdd iechyd. Nododd yr adroddiad fod ymarferwyr ar y cyfan yn deall eu rolau a'u cyfrifoldebau, yng nghyd-destun amddiffyn plant. Yn gyffredinol, caiff gwybodaeth ei rhannu'n briodol ac mewn modd amserol pan fydd pryderon yn cael eu nodi mewn perthynas â diogelwch a llesiant plant. Ceir cyfranogiad amlasiantaeth da mewn cyfarfodydd amddiffyn plant a drefnir o dan Weithdrefnau Diogelu Cymru, ac mae presenoldeb yr heddlu mewn cynadleddau adolygu amddiffyn plant wedi gwella'n sylweddol. 

Mae safbwyntiau'r plant a'u teuluoedd yn cael eu clywed. Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ariannu amrywiaeth o fentrau sy'n cefnogi plant a theuluoedd y mae trais a niwed wedi effeithio arnynt. 

Mae'r ysgolion a'r unedau cyfeirio disgyblion (UCD) yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddiogelu disgyblion ac o ganlyniad, maent yn lleoedd diogel i'r plant ddysgu. Mae'r ysgolion a'r Uned Cyfeirio Disgyblion yn adnabod y disgyblion a'u teuluoedd yn dda ac yn ymateb er mwyn diwallu eu hanghenion. Mae llawer o gyfleoedd i'r plant gael eu cynnwys wrth lunio cynlluniau a gwneud penderfyniadau. 

Nododd AGIC feysydd o bryder yr oedd angen ymateb iddynt ar unwaith mewn perthynas â threfniadau diogelu plant y bwrdd iechyd a allai beri risg uniongyrchol i'w diogelwch. Mae AGIC wedi gofyn i'r bwrdd iechyd ddarparu cynllun gwella. Mae'r cynllun hwnnw wedi dod i law a chafodd ei dderbyn gan AGIC. 

Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion: