Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Gweithredol

Dysgwch am ein blaenoriaethau a chamau gweithredu ar gyfer 2023-2024

Cynllun Gweithredol 2023–2024

Rydym wedi lansio ein Cynllun Gweithredol ar gyfer 2023-2024 heddiw (25 Mai 2022). Mae'r cynllun yn amlinellu'r camau rydym yn bwriadu eu cymryd i gyflawni ein blaenoriaethau newydd, a welir yn ein Cynllun Strategol 2022-2025.

Y rhain yw’r canlynol:

  1. Byddwn yn canolbwyntio ar ansawdd y gofal iechyd a ddarperir i bobl a chymunedau wrth iddynt gyrchu a defnyddio gwasanaethau a symud rhyngddynt
  2. Byddwn yn addasu ein dull gweithredu i sicrhau ein bod yn ymatebol i risgiau i ddiogelwch cleifion sy'n dod i'r amlwg
  3. Byddwn yn cydweithio er mwyn ysgogi'r gwaith o wella systemau a gwasanaethau ym maes gofal iechyd
  4. Byddwn yn cefnogi ac yn datblygu ein gweithlu i'w galluogi nhw, a'r sefydliad, i gyflawni ein blaenoriaethau.

Rydym yn parhau i atgyfnerthu ein trefniadau ymgysylltu, gwella a moderneiddio ein ffyrdd o weithio a chynyddu ein dealltwriaeth o’r heriau y mae ein cymunedau yn eu hwynebu.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:

Mae cynllun eleni yn adeiladu ar ein datblygiad fel sefydliad rhagweithiol sy'n dysgu. Rydym am wneud yn siŵr ein bod yn gwrando'n ofalus ar adborth ar yr effaith a gaiff ein gwaith ac ar y ffordd rydym yn ei gyflawni, gan ddefnyddio hyn i'n helpu i gynyddu ein dylanwad. 

Byddwn yn cefnogi ein staff, gan fuddsoddi yn y broses o ddatblygu ein rheolwyr a'n harweinwyr eleni er mwyn i unigolion a thimau elwa ar fod yn rhan o sefydliad a gaiff ei arwain yn dda.

Rydym wedi amlinellu rhaglen waith amrywiol ar gyfer y flwyddyn ac rydym yn croesawu unrhyw adborth, felly cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw sylwadau ar ein gwaith neu os hoffech roi adborth ar wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.