Neidio i'r prif gynnwy

Rhys Jones

Cyfarwyddwr Sicrwydd

Rhys Jones

Daw Rhys â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i’w rôl fel Cyfarwyddwr Sicrwydd yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), ar ôl ymuno â’r sefydliad yn 2005. Cyn ymuno ag AGIC, astudiodd y Gyfraith a Chymdeithas ym Mhrifysgol Caerwysg a gweithiodd yn y sector preifat i Nielsen.

Yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Sicrwydd, mae Rhys yn darparu arweinyddiaeth strategol i swyddogaethau arolygu, ymchwilio, adolygu a rheoleiddio AGIC. Mae wedi ymrwymo'n llwyr i wella ansawdd ac mae'n angerddol am yr effaith gadarnhaol y gall AGIC ei chael ar fywydau'r bobl yng Nghymru.

Mae Rhys yn siaradwr Cymraeg ac yn byw yng Nghaerdydd gyda'i bartner a'i dri o blant. Pan fydd amser yn caniatáu, y tu allan i'r gwaith mae'n mwynhau coginio, yn chwarae'r gitâr, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn chwaraeon. Mae hefyd yn hyfforddwr cymwysedig ar gyfer tîm pêl-droed llawr gwlad.