Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn.
Cyflwynodd Deddf Iechyd Meddwl 1983 y gwasanaeth Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn i ddiogelu hawliau cleifion a gedwir dan y Ddeddf, sydd naill ai'n gwrthod y driniaeth a ragnodwyd gan y clinigwr cymeradwy, neu y bernir nad yw'n alluog i gydsynio. O Dachwedd 2008, cyflwynodd y Ddeddf Iechyd Meddwl ddiwygiedig fesurau diogelu ychwanegol yn ymwneud â thriniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth a therapi electrogynhyrfol.
Nid rôl y SOAD yw rhoi ail farn glinigol yn y ffurf feddygol a ddeallir yn gonfensiynol, ond penderfynu a oes modd amddiffyn y driniaeth a argymhellir yn glinigol ac hefyd os oes ystyriaeth ddyladwy wedi cael ei rhoi i farn a hawliau'r claf.
Mae'r Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn yn seiciatrydd ymgynghorol annibynnol a benodwyd gan AGIC i ymgymryd â'r swyddogaeth statudol hon ar ran Gweinidogion Cymru, a dim ond 'dod' yn SOAD pan gaiff ei benodi i roi ail farn ar unigolyn. AGIC sy'n gyfrifol am benodi SOADs ac am yr Gwasanaeth Adolygu ar gyfer Iechyd Meddwl.
Gellir cael manylion llawn am y swydd a manylion sut i wneud cais yn y dogfennau isod.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 30 Medi 2022.
Dogfennau
- Cyhoeddedig466 KB- pdf
- Cyhoeddedig199 KB- doc
- Cyhoeddedig80 KB- doc