Neidio i'r prif gynnwy

Manyleb Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn (SOAD) - Cymru

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd y mae angen eu gwella.

Gwasanaeth Adolygu Iechyd Meddwl

Fel y Gwasanaeth Adolygu Iechyd Meddwl, ein rôl ni yw adolygu'r defnydd o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, a gwirio ei bod yn cael ei defnyddio'n briodol ar ran Gweinidogion Cymru. Mae'r Gwasanaeth Adolygu'n annibynnol o staff a rheolwyr ysbytai a thimau iechyd meddwl. Mae'r Gwasanaeth Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn yn rhan o’r Gwasanaeth Adolygu Iechyd Meddwl.

Gwasanaeth Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn

Cyflwynodd Deddf Iechyd Meddwl 1983 y Gwasanaeth Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn er mwyn diogelu hawliau cleifion a gedwir o dan y Ddeddf, sydd naill ai'n gwrthod triniaeth a ragnodir gan y clinigydd cymeradwy, neu yr ystyrir nad ydynt yn gallu cydsynio â thriniaeth. Ym mis Tachwedd 2008, cyflwynodd y Ddeddf Iechyd Meddwl fesurau diogelu ychwanegol mewn perthynas â Thriniaeth Gymunedol o dan Oruchwyliaeth a therapi electrogynhyrfol. 

Nid rhoi ail farn glinigol yn y ffordd mae meddygaeth gonfensiynol yn deall y term yw rôl Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn, ond penderfynu a ellir amddiffyn y driniaeth o safbwynt clinigol, ac a roddwyd yr ystyriaeth ddyledus i safbwyntiau a hawliau'r claf. 

Mae'r Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn yn seiciatrydd ymgynghorol wedi'i benodi gan AGIC i ymgymryd â'r swyddogaeth statudol hon, ac nid yw'n dod yn Feddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn ond pan fydd yn cael ei benodi i roi ail farn unigol. 

Mae AGIC yn gyfrifol am benodi Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn ac am y Gwasanaeth Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn. Mae AGIC yn derbyn tua 1,000 o geisiadau am ail farn bob blwyddyn. Mae'r Gwasanaeth Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn yn cael ei gefnogi gan dîm neilltuedig o staff, sy'n derbyn y ceisiadau am ail farn gan ddarparwyr ac yn gweithio gyda Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn er mwyn dyrannu ceisiadau'n brydlon.

Sut rwy'n elwa ar fod yn Feddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn?

Mae'r rhai sydd wedi dod yn Feddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn yn deall pwysigrwydd eu rôl fel mesur diogelu ar gyfer cleifion a gedwir, a'r gwahaniaeth maent yn gallu ei wneud i gleifion a gwasanaethau eraill trwy eu cysylltiad â chleifion a staff ysbyty.

Mae ymweliadau ail farn yn cynnwys ymweld ag ysbytai a safleoedd gwahanol, ac ymgynghori ag amrediad eang o weithwyr proffesiynol. Ar lefel broffesiynol a phersonol, gall natur y gwaith roi cyfle datblygu amhrisiadwy i ymgynghorwyr ehangu eu profiad, trwy weld yn uniongyrchol y gwahanol ddulliau ar gyfer triniaeth seiciatrig a gweld amgylcheddau ysbyty gwahanol.

Fel Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn, byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn ar ofynion/disgwyliadau'r rôl. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant ar y Ddeddf Iechyd Meddwl, y Ddeddf Galluedd Meddyliol a chyfraith achosion berthnasol arall, ac agweddau clinigol ar y rôl – a fydd i gyd yn berthnasol i ymgynghorwyr.

Bydd AGIC yn darparu cymorth cyflawn ar gyfer ymgynghorwyr sy'n ymgymryd â'r rôl hon.

Rôl Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn – Cyfrifoldebau

Disgwylir i Feddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn ymgymryd â phob agwedd ar y rôl yn ymwneud ag Adran 58, Adran 58a a Thriniaeth Gymunedol o dan Oruchwyliaeth, a rhaid iddynt wneud y canlynol:

  • Cyfweld â'r claf yn breifat (pan fydd hynny'n bosibl)
  • Darllen nodiadau'r claf
  • Darllen cynllun triniaeth y clinigydd cyfrifol
  • Siarad â'r clinigydd cyfrifol a'r staff nyrsio
  • Siarad â gweithiwr proffesiynol arall.

Disgwylir i Feddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn wneud penderfyniadau ar sail ei grebwyll annibynnol ei hun, gan ystyried sail resymegol glinigol, buddiannau a dewisiadau'r claf, Deddf Iechyd Meddwl 1983, Deddf Galluedd Meddyliol 2005, a'r Cod Ymarfer.

Wedi gwneud y penderfyniadau hyn, rhaid i'r Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn gofnodi ei benderfyniad a'r rhesymau drosto. Rhaid iddo hefyd adrodd i AGIC am unrhyw faterion sy'n peri pryder, a fydd yn cael eu hystyried fel rhan o brosesau gwybodaeth mewnol AGIC.

Manyleb person – Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus wedi dal swyddi parhaol fel seiciatryddion ymgynghorol ers nifer o flynyddoedd. Rydym yn chwilio am seiciatryddion ar lefel uwch sy'n gallu dangos ymroddiad i ddull sy'n seiliedig ar hawliau, gwybodaeth ddofn a phrofiad o seiciatreg mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol, a chryn brofiad oweithio gyda chleifion a gedwir. Dylai ymgeiswyr fod â phrofiad ymarferol cyfredolmewn amgylchedd clinigol, neu brofiad diweddar, a dylent fod yn gyfarwydd agymarfer cyfredol – clinigol ac anghlinigol, gan gynnwys mesurau i hyrwyddocydraddoldeb darpariaeth gwasanaeth ar gyfer pob claf. Rhaid i ymgynghorwyr fodyn ymarferwyr meddygol cofrestredig a meddu ar drwydded gyfredol i ymarfer yn yDU.

Mae rôl y Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn yn un heriol sy’n mynnu hygrededd proffesiynol, y gallu i gwestiynu penderfyniadau mewn modd anwrthwynebus ond cadarn, a sgiliau negodi a rhyngbersonol rhagorol. Bydd Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn yn ceisio cytuno ar gynllun triniaeth gyda'r clinigydd cyfrifol neu'r clinigydd cymeradwy, yn hytrach na'r Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn yn mynnu cynllun triniaeth "delfrydol" neu "academaidd". Bydd yn rhaid ichi ddeall ymarferoldebau triniaeth glinigol. Bydd yn rhaid ichi allu rhoi penderfyniadau ynglŷn â meddyginiaeth yng nghyd-destun ehangach triniaeth, a rhaid ichi allu cydbwyso buddiannau, dymuniadau a dewisiadau'r claf â'r angen am driniaeth. Mae'r gallu i ddefnyddio crebwyll annibynnol a chyfiawnhau penderfyniadau yn wyneb pwysau allanol posibl yn hanfodol. Mae gennym ddiddordeb penodol mewn ymgeiswyr a all ddangos diddordeb mewn gwella bywydau cleifion a gedwir a’r ymroddiad i wneud hynny.

Meini prawf hanfodol

  • Wedi cofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol
  • Aelod o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion neu gymhwyster cyfatebol agydnabyddir gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion a'r Cyngor MeddygolCyffredinol
  • Statws ymgynghorydd parhaol mewn seiciatreg ers nifer o flynyddoedd
  • Cofrestriad arbenigwr gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol
  • Wedi cofrestru ac ag enw da ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus
  • Profiad clinigol ymarferol cyfredol neu ddiweddar
  • Ehangder o brofiad seiciatrig mewn amrywiaeth o leoliadau
  • Profiad o weithio gyda chleifion sy'n agored i gael eu cadw
  • Sgiliau rhyngbersonol rhagorol
  • Ymroddiad ymarferol y gellir ei ddangos i gydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Llawysgrifen ddarllenadwy
  • Ar gael i gynnal o leiaf 30 ymweliadau Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn bobblwyddyn
  • Ymroddi i fynychu diwrnod hyfforddiant blynyddol a hefyd ymgymryd â'r cynllundatblygu proffesiynol parhaus sy'n berthnasol i'ch rôl fel Meddyg a Benodwyd iRoi Ail Farn
  • Hyddysg mewn cyfrifiadura, gyda phrofiad o anfon a derbyn e-byst, cwblhaudogfennau Microsoft Word, derbyn dogfennau PDF, a defnyddio cymwysiadauamgryptio.

Meini prawf dymunol

  • Tystiolaeth o arweinyddiaeth mewn meysydd perthnasol
  • Profiad o waith amlddisgyblaethol ar lefel uwch
  • Arbenigedd arbenigol, e.e. CAMHS, yr henoed, diogelwch uchel
  • Siaradwr Cymraeg
  • Sgiliau iaith.

Y Broses Ymgeisio

Bydd yn rhaid i ymgeiswyr gyflwyno:

  • Ffurflen gais wedi'i chwblhau
  • Profforma wedi'i gwblhau
  • Llythyr cefnogaeth gan eu cyflogwr cyfredol
  • CV.

Y Broses Benodi

Os yw ymgeiswyr yn llwyddiannus yn y cam cyfweliadau, wedyn bydd penodiadau yn amodol ar y canlynol:

  • Cwblhau'r hyfforddiant ymsefydlu
  • Derbyn dau eirda proffesiynol
  • Gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae swyddi Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn yn cael eu hysbysebu, ac mae'r broses o ddewis ar gyfer y cyfweliadau'n seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen a'r profforma. Os ydynt yn llwyddiannus yn y cam dewis, gwahoddir ymgeiswyr i fynychu cyfweliad ffurfiol. Yn dilyn y cyfweliad, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu a'u gwahodd i fynychu hyfforddiant ymsefydlu, wedi inni dderbyn geirdaon proffesiynol.

Gwrthdaro buddiannau

Nid yw AGIC yn atal Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn rhag rhoi ail farn o fewn y bwrdd iechyd sy'n eu cyflogi, yn amodol ar y canlynol:

  • Nid ydyw yn yr ysbyty maent yn gweithio ynddo (neu wedi gweithio ynddo yn yddwy flynedd diwethaf) neu ysbyty mae ganddynt gyfrifoldebau clinigol amdano.
  • Nid oes perthynas rheoli rhwng y Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn a'r clinigyddcyfrifol/cymeradwy sy'n gyfrifol am y driniaeth.
  • Nid oes unrhyw wrthdrawiadau posibl eraill (er enghraifft, roedd y Meddyg aBenodwyd i Roi Ail Farn yn arfer bod yn glinigydd cyfrifol y claf).

Os ydych wedi rhoi ail farn ynglŷn â chlaf, bydd gennych wrthdaro buddiannau bob amser os ydych yn eistedd fel aelod meddygol o dribiwnlys adolygu iechyd meddwl ar gyfer y claf hwnnw yn y dyfodol.

Fees and expenses

Bydd ffioedd a chostau yn daladwy yn unol â pholisïau AGIC fel a ganlyn:

Ffi am Ail Farn unigol: £220

Cyfraddau Teithio a Chynhaliaeth

Lwfans Milltiredd

Y gyfradd fydd 45 ceiniog fesul milltir, hyd at 10,000 o filltiroedd mewn un flwyddyn dreth. Bydd mwy na 10,000 o filltiroedd yn cael eu talu ar y gyfradd gyfredol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, sef 25 ceiniog fesul milltir.

Er mwyn hawlio lwfans milltiredd, rhaid i'r gyrrwr sicrhau ei fod wedi trefnu yswiriant priodol ar gyfer y cerbyd. Lefel yr yswiriant gofynnol yw Dosbarth Busnes.

Ffioedd parcio, tollau ac ati – cânt eu had-dalu'n llawn, ar yr amod bod y derbynebau wedi'u hatodi i'r ffurflen hawlio a gyflwynir.

Llogi Ceir

Nid yw Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn yn gymwys i logi ceir dan gytundeb Llywodraeth Cymru.

Mae AGIC yn annog staff ac adolygwyr i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bo'n ymarferol. Os nad oes unrhyw ddull arall o drafnidiaeth ar gael, bydd AGIC yn ad-dalu ffioedd tacsi os cyflwynir derbynneb.

Fodd bynnag, os nad oes trafnidiaeth gyhoeddus na cherbydau llog preifat ar gael, caiff Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn wneud cais am awdurdod i logi car. Rhai cyflwyno derbynebau ar gyfer llogi'r car a thanwydd er mwyn i'r ad-daliad gael ei drefnu.

Llety dros Nos

Fel arfer, bydd hyn yn cael ei drefnu gan dîm Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn AGIC, a bydd yn cynnwys cinio, gwely a brecwast.

Lle bo modd gwneud hynny, bydd cinio'n cael ei drefnu; fodd bynnag, os nad yw hyn yn ymarferol, gellir hawlio'r cyfraddau cynhaliaeth dyddiol a amlinellir isod.

Pan fydd angen i Feddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn drefnu eu llety eu hunain, yna bydd AGIC yn talu hyd at £95 am bob cyfnod 24 awr. Dylai hyn gynnwys llety a brecwast. Yn ogystal, caiff Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn hawlio hyd at £9 am ginio a hyd at £27 am bryd o fwyd gyda'r nos. Mae'r rhain yn seiliedig ar uchafswm, a bydd ad-daliadau yn cael eu talu yn ôl y costau gwirioneddol, a bydd yn rhaid cyflwyno derbynebau.

Ni fydd AGIC yn talu am alcohol, gordaliadau (os eir â bwyd i mewn i ystafelloedd gwely’r gwesty) nac am unrhyw fân-gostau, fel papurau newydd a galwadau ffôn, sy'n daladwy gan ystafelloedd y gwesty.

Teithiau ar Drenau ac Awyrennau

Ni fydd AGIC yn ad-dalu costau teithio dosbarth cyntaf. Fodd bynnag, rydym yn hapus i drefnu prynu'r tocynnau cyn y daith. Bydd AGIC yn ad-dalu pris y tocynnau yn unol â'r derbynebau a ddarperir gyda'r hawl am dreuliau.

Cewch gyfarwyddyd pellach ar gyfer Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn ar ein gwefan

Gwasanaeth Adolygu ar gyfer Iechyd Meddwl | Arolygiaeth Gofal Cymru (agic.org.uk)

ac yn y Cod Ymarfer 

Deddf Iechyd Meddwl 1983: cod ymarfer | LLYW.CYMRU