Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at yr heriau a wynebir gan staff yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (9 Tachwedd 2023) yn tynnu sylw at yr heriau a wynebir gan staff yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Ysbyty Gwynedd Adran Achosion Brys

Cwblhaodd AGIC arolygiad dirybudd o'r Adran Achosion Brys sy'n cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros gyfnod o dri diwrnod olynol ym mis Awst 2023. Yn ystod yr arolygiad ar y safle, nododd yr arolygwyr feysydd lle roedd y pwysau a'r heriau yn yr adran a'r ysbyty yn fwy cyffredinol, yn arwain at risg gynyddol i gleifion.

Gwelsom adran sy'n ymddangos yn lân ac yn cael ei chynnal a'i chadw'n dda, ac ar y cyfan, roedd yr uned yn darparu lefel ddiogel o ofal a phan ofynnwyd iddynt, dywedodd y cleifion wrthym eu bod yn fodlon ar eu profiadau. Nododd y cleifion fod y staff yn llawn cymhelliant, yn garedig ac yn barchus. Fodd bynnag mynegwyd eu rhwystredigaeth am yr amseroedd aros hir a'r diffyg diweddariadau am eu gofal a'u triniaeth.

Gwelsom fod cleifion sy'n wael neu'n gwaethygu yn cael eu gweld, eu huwch-gyfeirio a'u trin yn ôl y gofyn, yn seiliedig ar angen clinigol. Cafodd hyn ei gyflawni er y pwysau ar y staff a oedd yn cael ei achosi gan llif cleifion drwy'r ysbyty ehangach. Roedd y pwysau llif hyn yn golygu bod rhai cleifion yn aros am gyfnodau estynedig yn yr uned.

Oherwydd y gofynion hyn, gwelodd yr arolygwyr gleifion yn eistedd ar goridorau neu ar gadeiriau dros nos, gyda'r bobl yn anghyfforddus iawn a hynny'n cael effaith negyddol ar eu preifatrwydd a'u hurddas. Roedd yr achos hwn o orboblogi yn cael effaith negyddol gyffredinol ar allu'r staff i sicrhau preifatrwydd ac urddas y cleifion ac i ddilyn gweithdrefnau atal a rheoli heintiau. Yn gadarnhaol, gwnaeth yr arolygwyr weld y staff yn siarad â chleifion mewn ffordd garedig a pharchus, gan gynnwys gofyn iddynt beth oedd eu dewis iaith.

Ar ôl i gleifion gyrraedd yr adran achosion brys, ar y cyfan, gwelsom eu bod wedi cael eu brysbennu ac wedi cael adolygiad meddygol mewn modd amserol yng nghyd-destun y pwysau ar yr adran. Fodd bynnag, gwelsom dystiolaeth yn y cofnodion cleifion o aros am gyfnodau hir am adolygiad meddygol. Rhaid i gamau parhaus ac effeithiol gael eu cymryd hefyd i sicrhau bod cleifion yn cael gofal meddygol arbenigol a, lle bo angen, eu trosglwyddo i ganolfannau gofal trydyddol, mewn modd amserol.

Roedd yn gadarnhaol nodi bod yr adran yn cynnal sawl gweithgaredd i wella ansawdd mewn perthynas ag archwiliadau a gwella canlyniadau cleifion. Gwnaethom edrych ar ddata cydymffurfiaeth mewn perthynas â strôc, a oedd yn dangos bod cleifion yn gynyddol yn cael ymyriadau amserol gyda'r nod o wella eu canlyniadau.

Gwnaeth yr arolygwyr nifer o argymhellion mewn meysydd megis adnoddau'r gweithlu, goruchwylio cleifion ac arsylwi ar grwpiau cleifion agored iawn i niwed a gofalu amdanynt.  Roedd agweddau ar waith asesu a monitro'r nyrsys yn cael eu cwblhau i safon dda, ond mae'n rhaid iddynt gael eu cryfhau mewn nifer o feysydd. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod trefniadau arsylwi cleifion un i un yn cael eu cynnal a'u bod yn cael asesiad risg priodol, bod diogelwch gwell yn yr ystafelloedd asesu iechyd meddwl, ac adolygu rotas staff i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i fodloni gofynion yr adran.

Roedd strwythurau rheoli priodol ar waith, a gwelsom agweddau cryf a chydlynol ar arweinyddiaeth feddygol a nyrsio yn yr adran a'r ysbyty yn ehangach. Dywedodd y staff wrthym fod y bwrdd iechyd yn cymryd camau cadarnhaol i wella eu hiechyd a'u llesiant. Fodd bynnag, hoffai'r staff gael mwy o bwerau gwneud penderfyniadau mewn perthynas ag uwchgyfeirio, capasiti a llif, gan gynnwys cyfathrebu ynghylch camau gweithredu pan gaiff pryderon eu huwchgyfeirio, ac effeithiolrwydd y camau gweithredu hynny.

Gwelsom weithlu ymrwymedig ymysg pob grŵp staff yn yr adran brys ac ar y cyfan, mae graddau cwblhau hyfforddiant gorfodol da. Fodd bynnag, rhaid cryfhau'r ymgysylltu ymysg pob grŵp staff a chynnig cyfleoedd hyfforddi er mwyn sicrhau bod anghenion gofal a thriniaeth cleifion ag anabledd dysgu yn cael eu diwallu.

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:

'Mae'r pwysau ar wasanaethau'r GIG yn parhau i fod yn uchel dros ben, ac rydym wedi dod o hyd i dystiolaeth o'r heriau a wynebir gan y staff wrth geisio cynnal safonau gofal uchel mewn amgylchiadau anodd. Rwy'n cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y staff yn y gwasanaeth hwn. Bydd yr argymhellion penodol gennym ar gyfer gwelliannau yn helpu'r bwrdd iechyd i leihau risgiau i gleifion a staff gan barhau i ddelio â'r cyfnod heriol hwn ar yr un pryd. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.’